Cyfarwyddo Cyfoedion
Mae cyfarwyddo cyfoedion yn gynllun a sefydlwyd yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr.
Fe’i sefydlwyd oherwydd ein bod yn credu y byddai pobl ifanc yn ei chael yn haws i siarad â rhywun ifanc arall am eu problemau yn hytrach na siarad â gweithiwr ieuenctid hŷn.
Felly dyma lle dechreuodd cyfarwyddo cyfoedion. Dechreuodd gyda chwrs preswyl yng Nghanolfan Awyr Agored YMCA Newgale lle dechreuwyd rhan gyntaf y cwrs. Yna cwblhawyd ail hanner y cwrs yn Aberhonddu mewn tŷ bynciau.
Ar ôl cwblhau’r cwrs rhannwyd canolfannau ieuenctid, clybiau neu ysgolion inni lle byddem yn defnyddio’r hyn yr oeddem wedi ei ddysgu a’i roi ar waith.
Yn ddiweddar rydym wedi hyfforddi’r drydedd genhedlaeth o gyfarwyddwyr cyfoedion a chefais y fraint o helpu i gyflwyno’r cwrs gyda’n gweithwyr ieuenctid ni.
Mae bod yn gyfarwyddwr cyfoedion yn un o’r profiadau gorau yn y byd a byddwn yn ei argymell i unrhyw un.
Os cei gyfle i’w wneud, manteisia ar yr her. Fe fydd yn dy ysbrydoli ac yn rhoi cyfle oes i ti.
Mae hefyd yn edrych yn dda ar CV ac mae’n wych os wyt ti'n bwriadu mynd i’r math hwn o waith.







