Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cyfri’r Dyddiau Cyn Copenhagen

Posted by Sam (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 28/05/2009 at 12:31
0 comments » - Tagged as Education, Environment

In English

Y tywydd. Oes gennym ni obsesiwn efo’r tywydd? Ydy hyn yn wir neu ryw gelwydd sydd yn gwneud i ni deimlo yn ecsentrig fel Prydeinwyr? Dwi’n sicr fod pobl mewn gwledydd eraill yn edrych tuag at yr awyr ac yn cael cwyn bach.

Ond os ydym ni’n poeni gymaint am y tywydd a’r hinsawdd ar y cyfan, yna pam ydym ni’n parhau i wastraffu gymaint o egni? Pam rydym yn defnyddio egni, rydym yn creu ôl-troed carbon. Os nad wyt ti’n fuwch, yna byddai dy dorri gwynt pen-ôl wedi  llenwi gyda methan yn gadael ôl-carn, ond yna os wyt ti’n fuwch beth wyt ti’n dda yn darllen theSprout? Does yna ddim gwefan penodol i loeau?

Yn ôl at faterion. Mae Cynulliad Cymru, trwy’r adran Newid Hinsawdd, wedi penderfynu sefyll i fyny am bethau. Ac mi fedri di helpu. Helpu achub Cymru. Helpu achub y byd?

Ddim yn gwybod ble i gychwyn? Eisiau mwy o wybodaeth? Na phoener! Maen nhw’n rhedeg digwyddiad o’r enw Cyfri’r Dyddiau Cyn Copenhagen i helpu pobl ifanc fel ti i ddod gyda’ch gilydd i ddysgu mwy am newid hinsawdd. Bydd cyfle i leisio dy farn am beth ddylai gael ei wneud yng Nghymru a dros y byd i daclo’r broblem real a difrifol yma. Os wyt ti fethu deall beth sydd gan Copenhagen i wneud efo’r peth, dyna ble mae’r Gynhadledd Newid Hinsawdd Cenhedloedd Unedig yn cael ei gynnal yn fis Rhagfyr ac nid yw’n ymwneud gyda chig moch na Carlsberg fel oeddwn i yn ei feddwl i gychwyn.

Mae Cyfri’r Dyddiau Cyn Copenhagen yn digwydd ar ddydd Mercher 1af Gorffennaf yn Stadiwm Liberty, Abertawe. I gofrestru am y digwyddiad clicia yma.

Am wybodaeth ar sefydliadau eraill sydd yn amddiffyn y blaned yng Nghaerdydd, edrycha ar ein Cyfeiriadur Amgylchedd
Am wybodaeth ar bob math o bynciau amgylcheddol ymwela â'n tudalennau amgylchedd yma

Llun gan: The Library Of Congress

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.