Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cyfweliad Gyda Bysgiwr

Posted by GeoffCLIC from Wrexham - Published on 12/07/2011 at 17:24
0 comments » - Tagged as Comedy, Culture, Music, People, Topical

  • busker

English version

Gohebydd Ar Y Stryd, Geoff CLIC, Yn Cyfweld Pobl Ifanc Anhygoel

Cyfweliad 1. Danny – Cerddwr

Yn cerdded drwy strydoedd gwlyb Wrecsam fe gyfarfuasai â dyn ifanc talentog a golygus yn bysgio, a gan dynnu allan fy flipcamCLIC newydd a fy llyfr nodiadau i sicrhau'r cyfweliad dilynol.

GeoffCLIC: Beth ydy dy enw di?
Danny: Danny ydw i, dwi'n 21 oed – wyt ti am roi arian yn fy nghês gitâr neu beidio? (Sŵn tincial wrth i arian mân Geoff ddisgyn i'r cês.)

GeoffCLIC: Dwi wrth fy modd efo'r sain Danny, pa mor hir wyt ti wedi bod yn chwarae?
Danny: Cychwynnais chwarae mewn bandiau pam roeddwn yn 13, felly wyth mlynedd bellach. Dwi hefyd yn chwarae mewn band o'r enw JKLMNO, ar hyn o bryd rydym yn hyrwyddo ein EP newydd ac yn mynd ar daith ddiwedd y mis. Yn nhermau fy stwff unigol, dwi wedi bod yn gwneud hyn ers pedair blynedd, yn gigio hynny gallaf ac yn ysgrifennu caneuon yn barhaol. Dim ond hynna o arian fedri di roi i mi?

GeoffCLIC; Hei Danny, roeddwn i'n meddwl mai cyfweliad oedd hwn, nid lladrad! (Siffrwd arian papur wrth i GeoffCLIC roi pum punt yn y cês.) Dwi ar ddeall fod gen ti ychydig o ddeunydd ar-lein?
Danny: Dwi wedi rhyddhau dau EP ar iTunes gyda label cynt, dwi nawr yn rhydd ohonynt. Yn ddiweddar dwi wedi sefydlu label fy hun sef recordiau Big Time Small Town. Wanderlust fydd y rhyddhad cyntaf ar y label hwn fis Gorffennaf rhyw ben gobeithio! Dilynir hyn gyda EP yn barod at y daith fis Hydref.

GeoffCLIC: Da iawn Danny, diolch am dy amser – wyt ti'n cael diwrnod prysur?
Danny: Ydw, ond mae huna’n gyfweliad arall! Oes gen ti fwy o arian? (Distawrwydd wrth i Geoff ymlusgo i ffwrdd yn ceisio meddwl os oes ganddo ddigon o arian i ddal y bws gartref!)
GeoffCLIC: Welai di Danny. Pob lwc mêt!

Cer i edrych ar y fideo a'r lluniau – gwir dalent. Os wyt ti byth yn ardal Wrecsam cer i chwilio amdano. Diolch am y cyfweliad Danny a pob lwc gan bawb o CLIC.

Mae Danny yn esiampl wych o'r bobl ifanc anhygoel rydym yn cerdded pasio bob dydd. O'r dydd hwn ymlaen rwyf i a'm camera fflip yn mynd i stopio a chael sgwrs gyda nhw, felly cadwa olwg am fwy o gyfweliadau GeoffCLIC gyda phobl ifanc anhygoel!

Tyrd yn ffrind i mi ar Facebook ac efallai byddaf yn cyfweld ti!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.