Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cymdogaethau Ar Waith

Posted by YouthInfo from Pembrokeshire - Published on 11/06/2011 at 09:12
0 comments » - Tagged as Education, People

  • zone

English version

Yn ddiweddar bu Wythnos Cymdogaethau Ar Waith ar strydoedd Sir Benfro.

Rhwng 23 a 27 Mai, roedd asiantaethau Sir Benfro Ddiogelach yn arddangos sut maent yn gweithio gyda'i gilydd i gadw cymunedau yn ddiogel.

Roedd asiantaethau yn cynnwys Tîm Gwybodaeth a Chyfranogi Ieuenctid Sir Benfro, Heddlu, Ymddiriedolaeth Cŵn, Cadwch Gymru'n Daclus, Y Frigâd Dân ac Adfywiad Cymuned.

Roedd sioe daith dyddio yn galluogi'r asiantaethau o Sir Benfro Ddiogelach i roi gwybodaeth a chyngor i'r cyhoedd ar bob math o bynciau.

Roedd y Gylchfa Wybodaeth Symudol yn cynnal ymgynghoriad wedi'i ddylunio i ymateb i faterion cymunedol a phethau sydd yn poeni'r preswylwyr ifanc, a darparu gwybodaeth ar a chodi ymwybyddiaeth o'r darpariaethau ieuenctid presennol yn Sir Benfro.

Cafodd digwyddiad ei gynnal hefyd yng Ngholeg Sir Benfro yn canolbwyntio ar brawf twrw peipen wacáu (exhaust) ceir, efelychwr gyrru, gwybodaeth diogelrwydd ffordd, ac ymgyrch 'urddas' Bluetooth sydd yn anelu at hyrwyddo defnydd diogel o alcohol a negeseuon iechyd rhyw.

www.pembrokeshireyouthzone.co.uk

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.