Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Cynnig Hawliau

Posted by CLICryan from National - Published on 24/03/2010 at 10:42
0 comments » - Tagged as Topical

English Version

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru (LlCC) yn gwneud cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am fesuriad newydd, yn gysylltiedig â’r Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Byddai hwn yn cael ei alw yn Fesur Arfaethedig Ynghylch Hawliau Plant a Phobl Ifanc Cymru, ac mae LlCC yn awyddus i glywed eich barn amdano.

Yn y ddogfen ymgynghori mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ceisio esbonio, mor syml a chlir a phosib, beth fydd y Mesur yn ei wneud ac maent yn meddwl ei fod yn syniad da.

Mae’r Llywodraeth yn credu fod y cynnig am gyfraith newydd yn ffordd dda o wneud yn siŵr y byddent yn gweithio’n galed i helpu plant a phobl ifanc gael mynediad i’r hawliau sydd wedi eu gosod allan yn yr CCUHP, cam tuag at les gorau pob un ohonoch.

Dim ond os ydy’r Cynulliad Cenedlaethol a’r Frenhines yn cytuno iddynt bydd y cynigion yma yn dod yn gyfraith yng Nghymru. Yn y cyd amser mae LlCC eisiau gwybod beth mae’r cyhoedd – gan gynnwys plant a phobl ifanc – yn meddwl am y cynnig am Fesuriad newydd.

Y cam nesaf fydd edrych ar beth mae pobl wedi  ei ddweud ac yn penderfynu os dylai newid unrhyw beth yn y cynnig, cyn gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno iddo.

Os gwelwch yn dda edrychwch ar y cynnig ac ymateb cyn y dyddiad cau o ddydd Gwener, 7 Mai 2010.

Fideo gan Y Ddraig Ffynci.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.