Cynyddiad Defnydd Steroid
Mae asiantaethau sydd yn gweithio gyda phobl ifanc i ddelio gyda materion camddefnydd sylweddau yn Sir Benfro, yn poeni fwyfwy am si adroddiadau o gynyddiad sylweddol yn y defnydd o steroidau anabolig.
O’r trafodaethau rhwng asiantaethau fel y Gwasanaeth Arbenigol Alcohol a Chyffuriau I’r Dan-18, Heddlu Dyfed Powys, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Ieuenctid Sir Benfro, mae hefyd y farn gallai’r arbrofi gyda steroid fod yn gysylltiedig â’r cynnydd yn y defnydd o atodiadau magu cyhyrau (fel diodydd protein).
Er mwyn darganfod mwy o wybodaeth gan bobl ifanc am y pwnc hwn sydd heb ei ymchwilio llawer hyd yn hyn, mae ymgynghoriadau wedi bod yn digwydd gyda disgyblion Blwyddyn 10 a 11 mewn pedwar ysgol uwchradd yn y sir.
Yn cael ei hwyluso gan Dîm Gwybodaeth a Chyfranogi Ieuenctid Sir Benfro, mae’r ymarfer yn cynnwys cyfres o gwestiynau am ddelwedd corf, ymwybyddiaeth a defnydd atodiadau a steroidau.
Roedd pob ymateb i’r ymarfer yn gyfrinachol ac yn rhoi ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth i asiantaethau lleol er mwyn iddynt ddatblygu ymateb i’r pwnc hwn mewn ffurf gwybodaeth ac addysgiadol.
Am wybodaeth bellach ar yr ymgynghoriad yma, cysyllta â Tammy Foley ar 01646 680863.
Gwybodaeth Steroidau
F.R.A.N.K.
Dan 24/7








