Deall Iechyd Rhywiol?
MAE Hacio, y rhaglen materion cyfoes i bobl ifanc ar S4C, yn dweud nad oes digon o ymwybyddiaeth iechyd rhyw ymysg pobl ifanc yng Nghymru.
Roedd y rhaglen, gafodd ei ddarlledu ar 15fed Chwefror 2010, wedi dosbarthu holiadur i bobl ifanc 16 i 21 oed mewn 9 o ysgolion a phrifysgolion ar draws Gymru. Cafodd 517 holiadur ei llenwi.
O’r holiaduron yma dangoswyd fod 89% yn dweud eu bod yn defnyddio dulliau atal cenhedlu gyda’r mwyafrif yn dweud mai’r rheswm am hyn oedd atal beichiogrwydd, ond mae ffigyrau beichiogrwydd ymysg yr ifanc yng Nghymru yn parhau i fod yn uwch nag yn Lloegr.
Ymysg y rhai holwyd gan y rhaglen roedd rhai myfyrwyr coleg yn methu enwi rhai heintiau rhywiol nac yn gwybod beth oedd y symptomau.
O’r rhai atebodd yr holiadur dangoswyd fod 66% ddim yn gwybod lle oedd eu clinig iechyd rhywiol agosaf. A dywedai 54% nad oeddent yn teimlo fod addysg rywiol yn ddigonol.
Yn Lloegr mae Llywodraeth San Steffan wedi penderfynu fod plant mor ifanc รข 5 oed i gael addysg rywiol yn yr ysgol gynradd, ond yng Nghymru nid yw hyn yn orfodol er eu bod yn annog i Ysgolion Cynradd wneud hyn.
Beth wyt ti'n feddwl am yr addysg rhyw yn dy ardal di?
Wyt ti'n meddwl y dylai addysg rhyw fod yn cychwyn yn yr ysgol gynradd?
Mae’r rhaglen Hacio ar gael ar y wefan am 35 diwrnod o’r dyddiad darlledu. Isdeitlau ar gael.
Mae gwybodaeth am Iechyd Rhywiol ar gael yma.
Delwedd: Paul Keller







