Defaid.com
Mae enw gwefan newydd pobl ifanc Ynys Môn wedi cael ei gyhoeddi yn swyddogol yn yr Ŵyl Plant a Phobl Ifanc wythnos diwethaf.
Defaid.com fydd enw’r wefan sydd yn cael ei ddatblygu efo CLIC ar y funud hon. Ychydig wythnosau yn ôl cynhaliwyd cystadleuaeth i enwi’r wefan gyda chamera fideo ffansi i’r un buddugol a £100 i’r Clwb neu’r Ysgol.
Ar ôl i’r ymgeision ddod i mewn aeth blwch pleidleisio o gwmpas pob Ysgol Uwchradd ar Ynys Môn a Choleg Menai, a gofynnwyd i chi’r bobl ifanc bleidleisio am eich enw gorau.
Paul Magee, oedd ar benwythnos preswyl diwethaf CLIC, oedd yn fuddugol a chyflwynwyd y wobr iddo ar lwyfan yr Ŵyl. Ysbrydolwyd yr enw o brosiect gwneud crysau-t roedd Paul wedi bod yn cymryd rhan ynddo yn Ysgol Bodedern.
“Ma’ yna grysau-t efo sloganau a lluniau gwahanol arnyn nhw,” meddai.
“Pethau fel Dafad Hasselhoff a Dafad Iwan. Dyma le daeth y syniad.”
Roedd yr Ŵyl yn gyfle gwych i ymgynghori gyda phobl ifanc ar y logo fydd ar y wefan. Cafwyd nifer o logos gwahanol gan y cwmni dylunio Burning Red a rhoddwyd cyfle i’r bobl ifanc oedd yn yr Ŵyl ddewis pa logo oedd ei ffefryn, drwy roi sticer lliw arno.
Mae’r llun o’r logo fwyaf poblogaidd ynghanol lluniau’r erthygl yma. Y lliwiau melyn a gwyrdd gafodd eu dewis fel y lliwiau gorau i’r ysgrifen ‘defaid’.
Y cam nesaf ydy penderfynu ar olwg y wefan ei hun. Mae dau ddyluniad wedi cael eu gwneud gan Burning Red sydd nawr yn nwylo’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc fydd yn cynnal ymgynghoriad arnynt cyn hir. Mae’r ddau ddyluniad gwefan yma wedi dod o ymgynghoriad arall gafodd ei wneud yn benwythnos preswyl Llais Ni ychydig fisoedd yn ôl.
Efallai fod o’n swnio fod yna lot o ymgynghori wedi bod ond mae Ynys Môn a CLIC eisiau sicrhau mai gwefan i’r bobl ifanc gan bobl ifanc ydy hon, felly chi sydd angen dewis beth ych chi eisiau o’ch gwefan, gan gynnwys y pethau pwysig fel enw ac edrychiad.
Mae Ynys Môn ynghanol trefnu sefydlu Grŵp Golygyddol pobl ifanc fydd yn bwysig iawn yn sut mae’r wefan yn cael ei redeg. Os oes gen ti ddiddordeb yn bod ar y grŵp golygyddol yma yna cysyllta gyda Tania@cliconline.org.uk ac fe wnawn yn siŵr fod dy fanylion yn cael eu pasio ymlaen.
Os nad wyt ti o Ynys Môn a fod gen ti ddiddordeb darganfod mwy am Grŵp Golygyddol Cenedlaethol CLIC neu Grwpiau Golygyddol gwefannau lleol eraill ar y rhwydwaith CLIC yna cysyllta gyda ryan@cliconline.co.uk










