Diagnosis O Ddiogi
Dwi ddim yn gwybod amdanat ti, ond mae’n ymddangos fy mod i yn casáu coleg.
Yn ddiweddar symudais gyrsiau, felly dwi fis yn hwyr ar fy ngwaith i gyd, ac wedi cael gwybod fy mod i’n ddiog gan fy hyfforddwr dysgu.
Golygai hyn fy mod wedi cael fy niagnosio gyda diogi… yn ymarferol.
Golygai dwi dan gymaint o straen gyda’r gwaith sydd gen i yn barod, a'r gwaith ar ben hynny, pam dwi’n eistedd i lawr i wneud fy ngwaith byddaf yn gwneud unrhyw esgus i beidio ei wneud.
Esiampl dda ydy:
Reit nawr, gad i ni gychwyn… disgwyl! Dwi ddim yn meddwl byddaf yn gallu gweithio ar stumog wag.”
Yna yn sydyn dwi’n gadael fy ngwaith ac yn gwneud gwaith ac yn anghofio am y gwaith sydd angen ei wneud yn gyfan gwbl.
Felly dwi wedi cael diagnosis o ddiogi, o’r diwedd.
Nawr mae gen i esgus i beidio glanhau fy ystafell… neu fynd am gawod… Ddwedais i hynna’n uchel? Ymm, beth dwi’n golygu ydy… gwneud fy ngwaith cartref…
Wel, gobeithio dy fod di wrth dy fodd yn darllen fy erthygl, os nad wyt ti hefyd wedi cael diagnosis o ddiogi, ac yn rhy ddiog i ddarllen hwn?
Tudalennau Addysg CLIC
Tudalennau Iechyd CLIC






