Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Diwrnod O Uffern

Posted by eddie secretary from Torfaen - Published on 14/12/2011 at 09:43
0 comments » - Tagged as Culture, People, Topical

English version

Mae hwn am y diwrnod diflas yna pan fydd pawb yn pentyrru i mewn i'r car am chwech y bore i fynd o gwmpas y teulu i gyd un diwrnod cyn y Nadolig.

Roedd un fi ar ddydd Sul 11 Rhagfyr a dyma hanes fy antur, poenedigaeth a fferdod.

O leiaf wnaethom ni ddim gadael am 6yb. Na, gwnaethom adael am ddeg yn lle hynny, felly ychydig bach o orffwys i mewn ond dal, byddai'n well gen i fod wedi aros gartref, ond na roedd rhaid mynd, ond o leiaf mae wedi'i wneud nawr.

Felly aethom o d? fy chwaer (dyna le oeddwn i'n aros am y noson) yr holl ffordd i Amesbury (bydd y rhai ohonoch sydd yn gyfarwydd gyda Wiltshire yn gwybod mai dyna ble mae Stonehenge) i d? fy nhaid i weld fy modryb a tri chefnder sydd yn dri, dau a chwe mis oed.

Yna aethom i lawr i Southampton (dyna le roeddwn i'n arfer byw). Aeth fi a'm chwaer i weld ei ffrind gorau, ac aeth mam a'i ffrind i weld ein hwn gymydog, ar ôl awr aethom i lawr i Waterloo Ville at fy nain am awr (felly erbyn hyn mae'n tua 6 i 7 o'r gloch y nos).

O Waterloo Ville aethom i bentref bach o'r enw Mere i weld hen fodryb ac ail gefnderoedd (yno am 8:30yh). Roeddwn i'n iawn efo hyn gan fod fy ail gyfnither Sammie yn ferch wych i siarad gyda hi. Hi ydy'r un sydd yn hoffi darllen ac ati, yr unig broblem ydy ei blas mewn cerddoriaeth (ia, Justin Bieber) ond roeddwn yno am bron i ddwy awr, felly bu adael am 10:30yh.

Yna cymerodd rhyw ddwy awr a hanner dda i gyrraedd gartref, ond roeddem yn llwglyd felly aethom am daith wahanol pasio lle pitsa enwog i gael pitsa enfawr i fwyta. Cyrhaeddom gartref wedi hanner nos. Gan feddwl nad oeddwn wedi bod gartref ers dydd Iau wythnos diwethaf, gallet ddychmygu'r croeso cefais gan fy nghi (oeddwn, roeddwn i wedi pechu).

Cefais weld perthnasau ond roeddwn eisiau aros gartref, a ti'n gwybod beth? Dwi'n mynd i weld mwy o berthnasau dydd Sul, ond dwi ddim yn meindio hwn cymaint, mae hi'n coginio cinio dydd Sul, ac i bawb ohonoch sydd yn ddigon ffodus i gael eich teidiau a'ch neiniau gyda chi heddiw gallwch gytuno fod cinio dydd Sul wedi'i goginio gan nain yn well nag unrhyw beth fydd dy rieni byth yn coginio (mmm, cinio dydd Sul hyfryd).

Dwi'n gobeithio byddet ti yn cael gweld dy deulu estynedig eleni, a gobeithio cei di Nadolig llawn llon a llawenydd.

Tudalennau Teulu a Pherthnasau

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.