Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Diwrnod Rhuban Gwyn

Posted by CLICdan from Vale Of Glamorgan - Published on 25/11/2009 at 16:40
0 comments » - Tagged as Culture, Education, People

  • rhuban

English version

Mae heddiw yn marcio cychwyn Wythnos y Rhuban Gwyn: wythnos wedi’i anelu at hyrwyddo gwybodaeth o’r Ymgyrch Rhuban Gwyn i ddileu trais yn erbyn merched. Wedi’i adnabod gan y Cenhedloedd Unedig ers 1999, pan ddatganwys 25ain Tachwedd fel Dydd Rhyngwladol i Ddileu Trais Yn Erbyn Merched, mae gwreiddiau Dydd Rhuban Gwyn yn cychwyn yn 1960. Ar y diwrnod hwn, 49 mlynedd yn ôl llofruddiwyd tair chwaer yng Ngweriniaeth y Dominiciad, y tair yn actifyddion gwleidyddol ac ymgyrchwyr am hawliau cyfartal, gan bobl oedd yn gweithio i’r llywodraeth ffasgaidd roeddent yn gwrthwynebu. Ers hyn mae’r chwiorydd – Patria, Maria a Minerva – wedi dod yn symbolau o urddas ac ysbrydoliaeth dros y byd:

Gorffennaf 1981

Merched o draws America Lladin yn dod at ei gilydd yng Ngholombia. Wedi’i brawychu gyda’r ehangder a’r amrywiaeth o drais yn erbyn marched, cytunwyd i gynnal diwrnod o brotest yn flynyddol, a phenderfynwyd mabwysiadu 25ain Tachwedd fel dyddiad y Dydd Rhyngwladol i Ddileu Trais Yn Erbyn Merched er cof y chwiorydd Mirabel.

1991

Ymgyrch cyntaf Rhuban Gwyn yn cael ei lansio gan grŵp o ddynion yng Nghanada wedi’r dyrfa o saethu creulon o 14 myfyriwr benywaidd ym Mhrifysgol Montreal.

1996

Yn Ne Affrica lansiodd y Rhwydwaith Cenedlaethol ar Drais Yn Erbyn Merched ei Ymgyrch Rhuban Wen eu hunain ac mae nifer o grwpiau merched De Affrica yn sydyn i fabwysiadu symbol y Rhuban Gwyn.

1998

Mae WOMANKIND yn lansio’r Dydd Rhuban Gwyn cyntaf ym Mhrydain.

1999

Mae’r Genhedlaeth Unedig yn adnabod 25ain Tachwedd fel Dydd Rhyngwladol i Ddileu Trais Yn Erbyn Merched.

Mae’r Rhuban Gwyn yn symbol o obaith am fyd lle gall merched a genethod fyw’n rhydd o ofni trais. Mae gwisgo’r rhuban yn herio’r derbynioldeb o drais drwy gael dynion i gymryd rhan, yn helpu merched i dorri’r distawrwydd, ac annog pawb i ddod at ei gilydd i adeiladu byd gwell i bawb.

I gymryd rhan yn yr ymgyrch, neu i ddysgu mwy amdano, ymwela â’r gwefannau canlynol:

http://www.amnesty.org/en/campaigns/stop-violence-against-women

http://www.amnesty.org/en/campaigns/stop-violence-against-women/issues/empowerment-women/safe-schools

Ffynhonnell: http://www.whiteribboncampaign.co.uk/FAQs

Delwedd: http://saitsanews.blogspot.com/2008/11/white-ribbon-campaign.html

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.