Dwi'n Casáu Bwyd 2
Efallai byddi di'n cofio erthygl ysgrifennais ychydig yn ôl o'r enw Dwi'n Casáu Bwyd, oedd yn ymwneud â'm hanhwylder bwyta, Anhwylder Bwyta Detholus (SED).
Dwi'n awgrymu dy fod di'n darllen hwnnw cyn darllen yr un yma, i ti gael gwybod mwy am SED.
Mae'r erthygl yma yn ymwneud â sut dwi wedi bod yn ymdopi gydag ef ers hynny.
Yn 2011 newidiodd y ffordd dwi'n feddwl am fy ffyrdd o fwyta. O Mai – Gorffennaf 2011 roeddwn yn hyfforddi ar gyfer alldaith tair wythnos yn fis Awst.
Tra ar y penwythnosau hyfforddi dim ond stôf gwersyllfa fach oedd ar gael i goginio fy mwyd.
Fedri di ddychmygu coginio dinosoriaid twrci ar stôf gwersylla? Ni fyddai'n gweithio. Felly i alluogi fi i gwblhau'r alldaith yn llwyddiannus, roedd rhaid i mi newid.
Ar y penwythnos cyntaf i ffwrdd, roedd rhaid i mi orfodi fy hun i fwyta cyri a reis, roedd yn afiach. Gallwn i ddim credu beth oeddwn i wedi'i wneud, roeddwn i'n casáu'r stwff ond fe fwytes i ef. Roedd y sesiwn hyfforddi ddiwethaf yn parhau am wythnos ac roedd rhaid i mi fwyta reis, pasta, cyw iâr mewn saws od, rhesins, hadau blodyn haul, bariau ceirch 'iymi' ac yn y blaen.
Roeddwn i yn gorfodi fy hun i fwyta pethau doeddwn i wir ddim yn hoffi'r blas ac roeddwn yn sâl. Penderfynais fod gorfodi fy hun i fwyta pethau doeddwn i ddim yn hoffi ddim yn syniad da.
Yr alldaith: beth ddiawl oeddwn i am fwyta am dair wythnos?! Roedd y pecynnau dogni (oedd rhaid cael 3,000 o galorïau) a roddwyd i ni efo pethau fel pasta, couscous, reis, uwd, rhesins, pepperoni, caws ayb. Doeddwn i ddim yn hoffi dim ynddynt o gwbl, felly roedd rhaid i mi greu rhai fy hun.
Dwi ddim yn gwybod sut lwyddais barhau drwy'r wythnosau o hyn ond roeddwn yn byw ar Bot Noodles (wedi'u hidlo cynt), bara naan, craceri, bariau grawnfwyd, creision, siocled tywyll a siocled poeth. Fe wnes i drio ychydig o eog a macrell o Norwy. Yn ystod yr wythnos diwethaf cefais fyrgyr ac yn syndod i mi, dwi wedi bod yn methu allan!
Roedd y profiad hwn wir wedi newid y ffordd dwi'n meddwl ac mae wedi gwneud i mi sylweddoli y dylwn i geisio anwybyddu'r wedd, arogl, edrychiad ayb ac yfed gwydriad o 'tyfa i fyny a'i fwyta'.
Mae hyn yn mynd i swnio'n wirion, ond roedd creision yn helpu fi i hoffi blas sbeislyd a poeth! Roeddwn i'n arfer casáu bwydydd poeth a sbeislyd; roedd rhaid i bopeth fod yn blaen. Yna dechreuais fwyta creision poeth fel paprica, BBQ Mecsicanaidd, tsili ayb. Nawr, dwi'n caru bwydydd poeth! Wel, unrhyw gig sydd efo sbeisiau poeth…
Efallai bod hyn yn synnu'r bobl sydd yn fy adnabod… dwi nawr yn casáu dinosoriaid twrci a phot noodle wedi'i hidlo! Cefais brofiad drwg efo un dinosor twrci wrth i'w wedd wneud fi'n sâl. Ac am Bot Noodles, mae bwyta nhw am dair wythnos gyfan yn ddigon i unrhyw un gael digon ohonynt.
Creda neu beidio, dwi'n hoffi brechdanau nawr. Bob amser cinio dwi'n mynd i fy siop brechdan leol a dwi'n cael brechdan cyw iâr wedi'i dostio a saws coch, cyfuniad ychydig yn od ond mae'n gychwyn.
Iawn, efallai bydd y darn nesaf yma yn swnio'n od iawn i rai ohonoch ac efallai dy fod di'n meddwl 'o mae hyn yn druenus". Ond ers i mi fod tua chwech oed, yr unig beth roeddwn i'n bwyta o unrhyw fwyty bwyd cyflym oedd y bag ffrwythau. Wrth i mi fynd yn hŷn sylweddolais fod y sglodion yn dda!
Helo 2012, mae jeopreddy yn bwyta nygets, hambyrgyrs, byrgyrs cyw iâr, y cyfan! Dwi'n gwybod mai dim ond cig mewn bara ydynt, ond wir, ti ddim yn deall pa mor wych dwi'n teimlo, yn gwybod fod posib i mi archebu pryd o fwyd arferol.
Heddiw dwi wedi trio pitsa; nid yw'n neis ond mae pepperoni yn blasu'n dda! Dwi hefyd wedi cael ham, letys, ciwcymbr, tomatos, nionod a thaten trwy'u crwyn. Er nad oeddwn i'n hoffi beth oeddwn i'n drio, roeddwn yn teimlo'n dda wedyn am fy mod i'n trip bwydydd, rhywbeth nad allwn wneud cwpl o fisoedd yn ôl.
Dwi'n teimlo fy mod i'n symud ymlaen yn araf…
Os wyt ti eisiau gwybod mwy am Anhwylder Bwyta Detholus gadawa sylwad isod a gofynna! :o)
www.fussy-eaters.com
Anhwylderau Bwyta
Taflen Ffeithiau Anhwylder Bwyta Detholus







