Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Dydd San Ffolant: Nefoedd / Uffern

Posted by CLICryan from National - Published on 02/02/2012 at 14:56
0 comments » - Tagged as Culture, People, Topical

English version

NB: Mae'r erthygl hon yn cael ei rannu dros yr holl wefannau CLIC i roi cyfle i chi bobl hyfryd gael cymysgu yn syber gyda CLICwyr eraill dros Gymru. Rydym yn gwneud hyn weithiau. Efallai dylai cael term amdano. Os wyt ti'n meddwl am un, gad i ni wybod, a byddwn yn rhoi DVD neu rywbeth am yr un rydym yn ei ddewis.

Cyn i ti gael cyfle i gondemnio’r Nadolig fel ymarferiad llosgi arian, wedi'i freuddwydio gan adrannau marchnata mawrion manwerthu, ti'n cael dy sugno yn syth yn ôl i mewn gan y dyddiad yna ar y calendr gyda'r galon mawr goch wedi'i ddwdlan arno: Dydd San Ffolant.

Ond beth mae Dydd San Ffolant yn ei feddwl i ti? Rhywbeth? Dim Byd?

Os oes gen ti rywun arbennig, yna wyt ti'n bod yn hael gan brynu siocled moethus a blodau drud ar y person hwnnw, neu wyt ti'n gafael mewn tusw o gennin pedr £1.99 o Lidl a bocs rhad o Lindt?

Ydy'r rhai sengl ymysg chi yn dechrau cael eich pennau stelcio ymlaen ac yn gyrru anrhegion dienw i'r rhai rydych yn ffansio? Neu wyt ti'n trefnu sesiwn ffilmiau zombie a KFC gwrth-San Ffolant mewn tŷ ffrind?

Oes gen ti gân ramantus sydd yn ffefryn, neu drac gwrth-San Ffolant hoffet fewnosod isod? Wyt ti wedi cael dy ddympio yn ddiweddar ac felly yn treulio'r diwrnod yn creu dol voodoo o dy gariad cynt?

Mae hwn yn gyfle i ti rannu dy feddyliau ar y dydd mwyaf rhamantus o'r flwyddyn (i fod), da neu ddrwg.

Gad sylwadau, dolenni fideo ac rantiau gwrth-San Ffolant isod…

Bod Mewn Perthynas
Gwahanu

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.