Dydy Pawb Ddim Yr Un Fath
Mae pobl ifanc yn cael eu gweld fel rhai afreolus sydd yn peri ofn.
Pan mae person ifanc yn cerdded i lawr y stryd gyda chwfl i fyny ac mae person hŷn yn gweld nhw’n dod ac yn croesi’r ffordd, ydy hyn yn golygu fod gan y person hy camsyniad o’r ‘cwfl’?
Ond pam ein bod ni, fel dyfodol yfory, yn cael ein camddeall?
Mae rhan o’r bai yn disgyn ar y cyfryngau am gamddealltwriaeth preswyliwr ifanc Prydain. Yn y papurau newydd mae yna bob tro pennawd sydd yn cysylltu ieuenctid heddiw i ASBOs ac ymddygiad drwg.
Gallet bigo unrhyw bapur newydd ym Mhrydain a chael dy gwrdd gyda phennawd yn defnyddio termau fel : “Fel pla, mae’r ddinas yn ymddangos i fod yng ngafael anrhefn ymysg yr ifanc” (Peterborough Evening Telegraph).
Mae’r bobl sydd yn gyfrifol am y cyfryngau yn dadlau na fyddai ‘stori llwyddiant’ yn gwerthu mor dda â phobl ifanc yn ymddwyn yn ddrwg a bod rhaid iddynt ‘adlonni’ y gynulleidfa. Mae’n ddealladwy fod rhaid iddynt gynhyrchu cynulleidfa ond mae defnyddio termau sydd yn awgrymu fod pob person ifanc ar fai yn ddirmygadwy.
Mae’r Cyngor Ieuenctid Prydeinig (CIP) wedi cynnal holiadur dros y wlad. Dywedodd 82% o’r bobl ifanc ofynnwyd eu bod yn teimlo bod pobl hŷn efo llai o barch tuag atynt oherwydd beth maen nhw wedi’i weld yn y cyfryngau.
Roedd 86% o ddinasyddion ifanc yn anghytuno gyda’r sylwad, “Mae pobl ifanc yn haeddu’r gynrychiolaeth ddrwg maent yn ei gael yn y cyfryngau”. Hefyd, dywedodd 91% o bobl ifanc eu bod yn teimlo fod y cyfryngau yn cynrychioli eu cenhedlaeth fel un anghymdeithasol.
Fel y mae llawer o bobl ifanc wedi sôn, bydden nhw’n hapus iawn os byddai’r cyfryngau yn cyfaddawdu ac yn cydbwyso’r newyddion maent yn cynhyrchu drwy ychwanegu stori llwyddiant am bob stori ddrwg maent yn darlledu. Byddai hefyd yn llesol i bobl ifanc os byddai’r cyfryngau yn stopio brandio ni i gyd fel rhai sy’n ‘ymddwyn yn ddrwg.’
Felly, yn lle defnyddio termau fel ‘rhai ifanc’ a ‘yobs’, defnyddiwch eiriau sydd yn awgrymu mai’r lleiafrif o ieuenctid sydd yn achosi trafferthion. Byddai geiriau bach fel ‘lleiafrif’ a ‘rhai’ yn newid ein delwedd. Yn sicr ni fyddai hyn yn cymryd llawer o ymdrech ac amser.
Oherwydd y cyfryngau camarweiniol, mae gan bobl ofn arnom ni, neu hyd yn oed yn gwahardd grŵp ohonom o fynd mewn i siop gyda’n gilydd. Mae’n dod yn afrealistig ac yn wirion ac mae’n hen bryd i ni sefyll fyny dros ein hunain a gadael i Brydain wybod fod y mwyafrif ddim y lleiafrif.
Dywedodd person ifanc a lenwodd yr adroddiad CIP, “Peidiwch â rhoi ni i gyd efo’n gilydd yn yr un bocs. Mae llawer o bobl ifanc gweddus sydd yn gweithio’n galed allan yna, gyda’r lleiafrif yn rai anghymdeithasol a rhwygol. Mae’n fyd anodd i dyfu ynddi, felly rhowch gyfle i ni.”
Mae’r genhedlaeth hŷn yn cwyno fod pobl ifanc yn creu helynt ac yn ddiog. Fy nadl i yn erbyn hyn ydy mai’r bobl ifanc maent yn cwyno amdanynt ydy plant eu hunain. Mae’r bobl ifanc wedi cael eu magu gan y bobl hŷn felly wrth sôn am y bobl ifanc ‘afreolus’ yma maent yn cwyno amdanynt, a’i nid y rhai hŷn sydd ar fai eu bod nhw fel hyn? Mae’r cenhedloedd ifanc wedi cael ei ddylanwadu gan bobl hŷn, ond eto nhw ydy’r rhai sydd yn cwyno.
Mae pobl yn cwyno fod yr ieuenctid yn llenwi sinemâu yn dangos ‘ffilmiau budr neu dreisgar’. Nid pobl ifanc sydd yn gwneud y math yma o ffilmiau. Pobl sydd yn dri deg neu hŷn sydd yn eu gwneud. Felly efallai dylai nhw feddwl ddwywaith cyn pwyntio’r bys, mewn gwirionedd nhw sydd wedi creu’r union bethau sydd yn dylanwadu rhai pobl ifanc.
Nid oes llawer o wleidyddion yn poeni beth mae pobl ifanc yn feddwl gan nad oes ganddynt bleidlais ac felly ddim yn bwysig iddynt.
“Nid yw gwleidyddion yn trin pobl ifanc yn gyfartal gan nad allent bleidleisio, dydy pobl ifanc yn golygu dim iddynt,” esboniodd un hogyn o Gastell-nedd Port Talbot.
Ond mae llawer o aelodau o Lywodraeth Cynulliad Cymru sydd yn cymryd sylw o farn pobl ifanc. Pobl fel Gwenda Thomas, Huw Lewis, Leighton Andrews, Jane Hutt a mwy. Mae yna rai gwleidyddion sydd yn credu ynddo ni.
Mae yna lawer o bobl sydd yn credu ynddo ni ac yn gallu gweld y da mewn pobl ifanc.
Ond, mae rhai dinasyddion hŷn Prydain yn amddiffyn pobl fanc. Mae un dyn tri deg oed yn dweud: “Pan oeddwn i’n ifanc roeddwn i yn byw fy mywyd ac i fod yn deg roeddwn i’n llawer gwaeth na phobl ifanc nawr.”
Hefyd, mae Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, yn credu’n gryf mewn pobl ifanc a’i waith ef ydy bod yn bencampwr hawliau pobl ifanc.
Mewn cyfweliad gyda Gofal Cymdeithasol dywedodd “Mae hyn yn rhywbeth gwahanol. Mae gen ti bŵer a chyfrifioldebau a bydd pob yn gwrando arnat ti,” meddai. “Dywedodd fy ffrind wrthyf, ‘ti wedi cael y pŵer yma, a nawr mae’n rhai i ti wneud yn sicr dy fod yn ei ddefnyddio’n dda.’”
Mae pobl ifanc yn ceisio dod a’r ddwy genhedlaeth at ei gilydd.
Mae yna lawer o bobl ifanc a sefydliadau sydd yn ymdrechu i annog gwaith rhyng-genedlaethol. Mae yna hefyd lawer o gynlluniau gwobrwyo sydd yn clodfori pobl ifanc a phobl hŷn am weithio gyda'i gilydd.
Mae nifer o bobl ifanc yn gwneud llawer o waith rhyng-genedlaethol i geisio dod a’r genhedlaeth hen ac ifanc at ei gilydd. Mae aelodau Cyngor Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot yn cyfarfod gyda Age Concern yn fuan i drafod y problemau sydd yn gwahanu ni.
Mae aelod o’r Cyngor Ieuenctid Prydeinig wedi ceisio dod a chenedlaethau at ei gilydd ond cafodd ei wneud yn anodd. Dywedodd, “Dwi’n ferch 20 oed, mewn prifysgol dda ac yn gwneud yn dda. Ond unwaith, ceisiais helpu hen ddynes ac roedd y golwg rhoddodd hi i fi yn llawn ofn. Nid yw’n deg ei bod hi wedi cael ei gwneud i deimlo fel hyn am bobl ifanc i gyd.”
Felly beth gall pobl ifanc wneud i wella eu delwedd yn y cyfryngau?
Mae yna lawer o gynlluniau gwobrwyo o gwmpas, fel y Gwobrau Phillip Lawrence a Dug Caeredin. Trwy’r cynlluniau gwobr yma i bobl ifanc gallwn ddangos i Brydain beth allem wneud. Gallem ennill ffydd, canmoliaeth a dealltwriaeth gan bobl hŷn.
Mae gweithwyr ieuenctid a’r bobl sydd yn gweithio gydag ac ochr yn ochr ag ieuenctid yn helpu ni i ennill proffil cadarnhaol drwy gywiro a dweud wrth bobl sydd wedi camddeall ni ein bod yn gwneud yn dda ac yn cyfrannu i’n cymuned.
Gallwn helpu ein hunain drwy gynhyrchu cylchgronau ein hunain neu flogs ar-lein a darlledu nhw, yn gadael i rai hŷn ddeall pwy ydym ni a beth rydym yn sefyll amdano. Nid ydym i gyd yn gaeth i alcohol a chyffuriau na’n 'yobs' anghymdeithasol!
Beth fyddai’n digwydd os fyddai’r byrddau’n troi?
Fedri di ddychmygu dynes yng nghanol ei phedwardegau yn cerdded i lawr y stryd gyda chwfl am ei phen ac am fod rhai 40 oed yn cael eu gweld fel ‘trwbl’ mae person ifanc yn croesi’r ffordd? Nid yw’n realistig, fyddai neb yn neidio i’r fath rhagdyb gwarthus. Felly pam bod ni’n cael ein trin fel hyn?
Beth ydy dy farn di ar y ffordd rydym yn cael ein cynrychioli?
DELWEDD: Ezyan Y.







