Dysgu Rheoli Arian
Os wyt ti fel fi, a chyn gynted ag yr wyt yn cael dy ddwylo ar rywfaint o arian yr wyt yn ei wario, yna dyma’r lle iawn i ddechrau dysgu sut i reoli dy gynilion.
Dysgais sut i ddodrefnu pedair ystafell mewn fflat gyda £1000, sy’n weddol anodd i ddechrau, ond gall ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer popeth fwy neu lai.
Yn gyntaf byddwn yn dy gynghori i rannu dy arian yn adrannau, fel ei fod yn haws ei reoli.
Er enghraifft, pe baet yn dodrefnu pedair ystafell fflat, yna rhanna'r swm cyfartal i bob ystafell. Felly byddai’n £250 yr ystafell, ond gall roi caniatâd i ti dy hun orwario ar rai ystafelloedd os oes gen ti arian ar ôl o ystafell arall. Fel y dywedais, gall ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer popeth bron.
Ffactor allweddol o ran dysgu sut i reoli arian yw hunan reolaeth. Yr hyn a olygaf wrth hyn yw dysgu dy hun i ddal ati a rheoli dy arferion gwario. Y tro nesaf y byddet yn mynd i brynu rhywbeth gofynna i ti dy hun, a oes arnaf angen hwn mewn gwirionedd? Gobeithio y bydd hyn yn dy atal rhag prynu pethau nad oes arnat eu hangen mewn gwirionedd! Ceisia osod targed i ti dy hun hefyd. Er enghraifft, mae arna’ i wirioneddol eisiau cael iFfôn felly rydw i wedi gosod nod i mi fy hun o gynilo i gael un. Mae’r dull hwn yn gweithio’n weddol dda i mi oherwydd ar ddiwedd y twnnel rwyt yn cael rhywbeth gwych allan o’r cyfan.
Peth arall pwysig i’w gofio yw nad oes arnat angen y gorau bob tro. Os yw dy ffrind drws nesaf yn dangos y ffôn newydd sbon, sgrin gyffwrdd a phopeth, sy’n costio £800 ac ati nid oes raid i ti fod ag un – mae digon o ffonau sgrin gyffwrdd ar gael am bris is.
Er enghraifft yn www.orange.co.uk mae ffôn sgrin gyffwrdd ar gael am £30. Mae Primark hefyd yn ffordd dda o ddal i fyny gyda’r ffasiynau newydd i gyd am brisiau rhad. Felly cofia nad oes arnat angen y gorau bob tro.
Cofia, ar ôl ymdopi gyda chynllunio sut i ddefnyddio dy arian yn ofalus, rwyt ti'n cael rhywbeth gwych allan ohono, ac efallai y bydd ychydig o arian ychwanegol dros ben!
Cofia:
● Rhanna dy arian yn adrannau
● Dysga hunanreolaeth
● Nid oes arnat angen y gorau bob tro
Gobeithio fod yr erthygl yma wedi bod o gymorth i ti ac yn ddefnyddiol. I gael mwy o awgrymiadau ynghylch arbed arian, clicia yma.
Os oes gen ti unrhyw awgrymiadau am gyllidebu neu reoli arian, noda dy sylwadau a rhanna nhw gyda ni i gyd.
Cyngor gwych, jescc!Mae mwy o wybodaeth am arian yma.






