Egluro Etholiad
For English version click here
Mae Gordon Brown wedi galw etholiad cyffredinolar 6ed Mai 2010 ond beth mae hyn yn ei feddwl?
Wel, mae’r Prif Weinidog yn gorfod gofyn i'r Frenhines i ddiddymu’r senedd sydd yn golygu fod pob sêt yn y Tŷ Cyffredin yn dod yn wag ac mae etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal i’w llenwi.
Mae pobl ledled Prydain yn pleidleisio i ddewis pwy fydd yn cynrychioli eu hetholaeth (ardal) fel aelod seneddol yn y Tŷ Cyffredin. Pan mae etholiad wedi cael ei alw mae pawb dros 18 oed yn cael pleidleisio am yr aelodau yma, sydd yn cynrychioli plaid wleidyddol. Y pedwar prif blaid yng Nghymru ydy Plaid Cymru, Llafur, Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Mae pleidiau eraill ac ymgeiswyr annibynnol hefyd.
Mae pawb sydd dros 18 oed yn cael pleidleisio am un o’r ymgeiswyr sydd yn sefyll yn eu hetholaeth nhw ac mae’r un sydd yn cael y mwyafrif o’r pleidleisiau yn dod yn Aelod Seneddol, AS, lleol. Mae 646 o etholaethau seneddol ym Mhrydain, 40 yng Nghymru, sydd yn golygu fod 646 o seddi i lenwi yn y senedd.
Mae’r Frenhines yn gofyn i arweinydd y blaid wleidyddol sydd â’r mwyafrif o AS yn y Tŷ Cyffredin i ddod yn Brif Weinidog ac i ffurfio llywodraeth i reoli’r wlad. Mae’r blaid sydd â’r ail fwyafrif o AS yn dod yn wrthblaid ac mae’r arweinydd, David Cameron ar ran y Ceidwadwyr ar hyn o bryd, yn dod yn arweinydd swyddogol yr wrthblaid.
Cafodd yr etholiad cyffredinol diwethaf ei gynnal yn 2005 (mae’n orfodol fod etholiad yn cael ei chynnal bob 5 mlynedd o leiaf) a chafodd Tony Blair ei wneud yn Brif Weinidog. Pan ddiswyddodd Tony Blair cafodd Gordon Brown yn y swydd ar ei ôl, ond ni chafodd ei bleidleisio i’r swydd mewn etholaeth.
Mewn arolwg diweddar wedi’i gyhoeddi gan The Children’s Society, mae’n dangos nad oes gan dros 90% o blant hyder mewn gwleidyddion ac maent yn teimlo nad ydynt yn gwrando ar farn pobl ifanc. Dim ond chwarter o’r 1,006 o bobl ifanc a ofynnwyd oedd yn meddwl byddai’r etholaeth gyffredinol yn gwneud gwahaniaeth positif i’w bywydau.
Gyda barn mor negyddol am y Senedd a gwleidyddion oes digon o ddealltwriaeth o’r broses a’r gwahaniaeth mae’n pleidlais ni yn gallu ei wneud?
Mae Cymdeithas y Sgowtiaid a Oxfam GB yn annog pobl ifanc i bleidleisio am y tro cyntaf gyda’r ymgyrch Active Citizens: Virgin Voters (Dinasyddion Gweithredol: Pleidleiswyr Newydd). Mae blog ar gael ar eu gwefan sydd yn diweddaru chi ar ddigwyddiadau yn arwain at yr etholiad.
Mae nifer o bobl yn dweud nad ydynt yn pleidleisio oherwydd ni wnaiff wahaniaeth beth bynnag ond os ydych chi eisiau cael dweud eich dweud am bwy sydd yn gwneud y penderfyniad yna mae angen i chi bleidleisio.
“Cafodd rhai o fy nghyd weithwyr eu hetholi ar ddim ond llond llaw o bleidleisiau. Os byddai llond llaw o bobl wedi aros adref yna ni fyddent wedi cael eu hetholi,” meddai Sarah Teather, AS Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Dwyrain Brent yng Ngogledd Orllewin Llundain.
“Dim ond angen i ychydig o AS bleidleisio’r ffordd arall a gall newid y gyfraith, er enghraifft yn penderfynu os ydych chi yn gorfod talu i fynd i Brifysgol neu beidio.”
Mae’r wefan Active Citizens yn dweud fod adroddiad diweddar yn dangos nad yw 56% o bobl ifanc 18 i 24 oed wedi cofrestru i bleidleisio. I roi pleidlais mae’n rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol, os nad ydych wedi cofrestru yna mae posib gwneud hyn drwy’r wefan Fy Mhleidlais i.
Bydd cerdyn pleidleisio yn dod trwy’r post i chi fynd hefo chi i’ch gorsaf bleidleisio agosaf ar y dydd. Gallwch hefyd gwneud cais am bleidlais drwy’r post (i rai sydd ddim yn gallu mynd i’w gorsaf pleidleisio). Mae’r wefan Active Citizens efo cyfleuster chwilio defnyddiol sydd yn rhoi manylion am yr ymgeiswyr yn eich ardal leol chi, gall efallai helpu chi wneud penderfyniad am bwy i bleidleisio.
Lluniau:
graphiclunarkid - Polling Station
Theresa Thompson - Vote
Policy Network -Gordon Brown, Uk Prime Minister
Conservative Party - David Cameron at Conservative Party Conference
Alan Cleaver - Vote











