Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Eisiau Gweithio Yn Croatia?

Posted by CLICtania from National - Published on 21/05/2010 at 15:29
0 comments » - Tagged as Travel, Work & Training

English version

Wyt ti’n ffotograffydd neu’n newyddiadurwr yn gweithio ar ei liwt ei hun?

Eisiau defnyddio’r dalent hwn a chael dy ariannu i weld ychydig o’r byd tra ti wrthi?

Mae’r pedwerydd cyfarfod o’r Rhwydwaith Rhanbarthol Ieuenctid y Cynulliad Ardaloedd Ewropeaidd yn cymryd lle o ddydd Llun 7fed – ddydd Mercher 9fed Mehefin 2010 yn y dref ddarluniadwy Donja Stubica yng Nghroatia, ac maent yn chwilio am ddau newyddiadurwr testun ac un ffotograffydd i nodi’r digwyddiad.

Yn adrodd i Orangelog, cylchgrawn Gwasg Ieuenctid Ewropeaidd, byddet yn adrodd ar y cyfarfod tra mae’r rhai sydd yno yn ffocysu a’r rôl adeiladwaith cyfranogol ieuenctid yn rhanbarthol yn y rhanbarthau Ewropeaidd ac yn trafod sut i gryfhau adeiladwaith y rhwydwaith.

Dyna’r pethau ffurfiol, nawr i adael i ti wybod fod y llety a’r bwyd yn cael ei dalu drosta ti drwy’r digwyddiad, ac mae costau teithio yn cael ei ad-dalu hyd at 250 ewro, dylai dalu am hedfan yno ac yn ôl (yn ddibynnol ar y ffaith fod y cymylau llwch folcanig yn aros i ffwrdd).

Gyrra dy e-bost a CV i: y.brusselmans@youthpress.org, a chofia sôn os wyt ti’n gwneud cynnig am newyddiadurwr testun neu ffotograffydd. Mae profiad a chamera DSLR (digital single lens reflex) dy hun yn hanfodol.

Bydd rhai i ti fod yn sydyn, gan fod dyddiad cau ceisiadau yn dod dydd Llun, 24 Mai, ac mae’r digwyddiad ei hun mewn ychydig dros bythefnos. Pob lwc!

Darllena’r hysbysiad swydd

LLUN: Kelvin 255

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.