Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Eisteddwch Ac Ymlaciwch

Posted by CLICtania from National - Published on 29/03/2010 at 16:33
0 comments » - Tagged as Culture, Education, Movies, Technology, Topical, Yn Gymraeg

  • Photo 1

Click here for English version

Swnllyd. Anghyffyrddus. Creu Stŵr. Diflas. Hir.

Sut mae’r daith adref ar y bws ysgol i chi?

Dychmyga hyn. Wedi gorffen diwrnod hir yn yr ysgol, mynd ar y bws, eistedd i lawr, ymlacio, gwylio DVD ac yna cyrraedd adref wedi adfywio yn barod i wneud eich gwaith cartref!

Wel dyma sut mae pethau i fyfyrwyr yng Ngogledd Cymru (efallai ddim y darn am fod yn barod i wneud eu gwaith cartref!)

Mae’r prosiect bws ysgol ZOom yn taclo ymddygiad gwrthgymdeithasol a bwlio drwy osod systemau adloniant ar rhai bysys ysgol i gadw difyrrwch disgyblion a chadw nhw yn eu seddi.

Mae’r peilot yn arbrawf i weld os gall hyn helpu gostwng bwlio a thynnu ychydig o’r pwysau oddi ar y gyrwyr bysys druan sydd yn gorfod cadw golwg ar y lon ac ymddygiad y teithwyr.

Ysgol Dinas Bran yn Llangollen ydy un o’r ysgolion sydd yn cynnal peilot y cynllun gydag adloniant fel cyngherddau, ffilmiau a rhaglenni dogfen natur yn cael eu dangos ar y bysys GHA sydd yn cario’r disgyblion.

“Mae’n gweithio!” meddai Berwyn, Rheolwr Gweithrediadau Coets GHA. “Mae gyrrwr yn troi ei gefn ar 70 o blant ac yn gyrru. Os mae’n bosib cadw eu sylw a rhoi adloniant iddynt ar y trip adref yna maent yn fwy tebygol o fihafio ac yn llai tebygol o achosi fandaliaeth neu dynnu sylw’r gyrrwr.”

Mae’r Cynulliad yn cefnogi’r dull yma ar ôl i ffigyrau ymddygiad gwrthgymdeithasol gynyddu yn y blynyddoedd diwethaf. Mae ZOom yn brosiect ymddygiad gwrthgymdeithasol mae’r Cynulliad yn ei gefnogi. Bydd yn cael ei dreialu am flwyddyn ac yna byddent yn edrych i weld os yw’n effeithiol yn rheoli ymddygiad.

“Ar ddiwedd bob diwrnod ysgol mae disgyblion yn mynd ar y bws am gartref yn llawn cynnwrf ac egni, ac mae lefelau sŵn yn gallu tynnu sylw gyrwyr bws,” meddai Stuart Davies, Cyd Bennaeth Priffyrdd a Seilwaith i Gonwy a Sir Ddinbych.

“Efallai fod hyn i weld yn ffordd radical iawn ond os yw’n lleihau ymddygiad gwael ac yn stopio bwlio yna mae werth o. Yn America mae systemau adloniant yn cael eu defnyddio yn barod i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, ac maent yn adrodd canlyniadau positif.”

Rhai o’r DVD’s addas at yr oedran sydd yn cael eu dangos y tymor hwn ydy A Bug’s Life, Planet Earth, Pixar Short Stories, Earth Power of the Planet, Amazon with Bruce Parry, Coldplay, Wall E, Take That Beautiful World Live, Harry Hills TV Burp a Marley and Me

Mae ZOom efo llwythi o bethau eraill maent yn eu gwneud ar eich bysys ysgol. I ddarganfod mwy am eu prosiectau eraill ymwelwch â’r gwefan ZOom.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.