Eithafiaeth: Y Taliban, Iran & Llifogydd Pakistan
English version
Noder: Fel gyda phopeth ar theSprout, mae’r barnau yn yr erthyglau hyn yn perthyn i’r awdur.
Mae pobl a gwledydd yn newid mewn patrymau, symudiadau a meddyliau. Yn aml mae gwactod yn cael ei greu pan mae un yn dymchwel yn creu amgylchedd ble gall eithafiaeth fadru, recriwtio a thyfu.
Pan ddymchwelodd yr Undeb Sofietaidd cafodd gwactod ei greu i feddyliau eithafol dyfu e.e. diffyg llywodraeth wedi’i ganoli, cwympo llywodraeth, diffyg diogelwch economaidd, gofal iechyd a.y.b. Mae pobl yn dychwelyd i hen arferion.
Y Chwyldro yn Iran
Dyma pan fod pobl yn Iran yn protestio o gwmpas amser y Muharram, y mis ble dywedir cafodd Imam Husayn ei ferthyru (martyred) yn Karbala. Gall y digwyddiad arwyddocaol hwn yn Shia Islam gael ei weld fel un sy’n tanio’r gwrthwynebiad i’r llywydd Ahmadinejhad yn y thema o ‘Da yn erbyn Drwg’ (e.e. Imam Husayn yn erbyn Yazid) ac ar ddydd yr Ashura (y diwrnod o ferthyrdod) cafodd pobl eu saethu wrth wrthdystio yn fis Mehefin llynedd. Roedd pobl oedd yn cefnogi’r llywydd yn siantio yn eu miloedd “Marwolaeth i Brydain! Marwolaeth i America!”; nid oherwydd eu bod eisiau pawb farw yn llythrennol, ond oherwydd eu bod yn lloerig ar ôl blynyddoedd o ymyriant yn eu gwlad.
Wedi’r chwyldro, yn debyg iawn i beth ddywedodd Marjane Satrapi, yr unig beth sydd yn gallu uno gwlad ar ôl hynny ydy gwleidyddiaeth a chrefydd. Yn yr Undeb Sofietaidd roedd o’n wleidyddiaeth (Comiwnyddiaeth a waharddodd crefydd, yn ailosod ei hun gyda set o gredau eraill tebyg) ond yn Iran roedd o’n grefydd, a dyna pam ei fod nawr yn cael ei redeg o dan Gyfraith Shariah. Dan Gyfraith Shariah a’r Ayahtollah cynyddodd y nifer o garcharorion gwleidyddol tua 3000% ac roedd y rhan fwyaf ohonynt yn goch. Mae’n wrthodiad llwyr o ddelfryd Gorllewinol i’r eithaf.
Disodlwyd y Shah gan fod teimlad yr oedd yn cynrychioli’r syniadau, barnau a gofynion ei gymar Gorllewinol wedi blynyddoedd o wladychiaeth: pa ffordd well o wrthod y Gorllewin na dod yn dalaith cyfraith Shariah Islamaidd hollol llawn? Gwaharddwyd teis a ‘mullets’ gan eu bod yn symbol o ddirywiad Gorllewinol; i raddau mae ganddynt y farn gywir e.e. gwrth-gyfalafiaeth felly gwrth-fateroliaeth, ond mae’r dalaith Cyfraith Shariah yn fygythiad perygl i hawliau dynol yn fyd eang. Mae’r Shah a gwladychiaeth wedi creu gwactod i wlad draddodiadol gymedrol, Rhyddfrydol hyd yn oed, i ddod yn dalaith cyfraith Shariah. Mae Iran yn esiampl ddiddorol. Raliodd Ali Shariati yr Iranwyr coch ar gyfer talaith sosialaidd/comiwnyddol gyda dylanwad Islamaidd…raliodd Islam y bobl am chwyldro, a chododd eto i ralio nhw ar Ddydd y Karbala, 2009. Turiodd y bwledi flodau newydd i ymladd am Iran tecach.
Gall cael adlewyrchiad o hyn ymhobman ond mewn gwahanol sefyllfaoedd, fel y problemau rhwng Israel a Palestina…wyt ti’n meddwl byddai Palestina mor filwrol â hyn heb amhariad a rhyfel cyson? Rydym ni, fel dynion, yn datblygu mesuriadau llym ar gyfer amseroedd llym ac ers y dileu systematig o dir Palestina, maen nhw’n ymladd yn ôl. Mae blynyddoedd o fomio, Apartheid Israeli a’r gwarchae wedi ralio’r bobl yn fwy nac erioed.
Problemau Gwleidyddol Pakistan
Gad i ni edrych ar esiampl fwy blaenllaw, yn fwy blaenllaw nag Israel a Palestina neu Iran: Pakistan. Cafodd unbennaeth filwrol dan Gadfridog Zia Al Haq ac ysbeiliad y wlad dan Benazir Bhutto effaith dwfn ar y wlad, aeth i mewn i alltud hunan gorfodol wedi cyhuddiad honedig o lygredigaeth ac er ei diffygion cofleidiodd Pakistan hi gyda chroeso mawr. Daeth arweinydd Parti’r Bobl Pakistan yn ôl o alltudiaeth yn 2007 wedi cyrraedd cytundeb gyda’r Llywydd ar yr adeg (a hefyd yr arweinydd milwrol ar yr adeg) Pervez Musharraf a roddodd amnest a gollwng y cyhuddiadau yn ei herbyn. Cafodd Bhutto ei llofruddio yn 2007 pan ffrwydrodd bom, ni laddwyd gan y ffrwydrad, hitiodd top ei phen yn galed ar do ei char… mae’r holl beth yn ychydig yn (rhy) rhyfedd i mi.
Mewn bomio cynt, gwelwyd personél a ddyrennir gan y llywodraeth yn sgwrio’r strydoedd cyn mynd â’r dystiolaeth fforensig, o ganlyn roedd cyhuddiadau fod llywodraeth dotalitaraidd Musharraf wedi trefnu hyn. Ddim yn credu hyn? Edrycha ar y ‘bobl ar goll’ Pakistan; dynion a merched sydd wedi cael eu hedfan dramor a’u harteithio er pennaf les cudd-ymchwil America. Yn ddifater i beth ddigwyddodd mewn gwirionedd, ni fyddem yn gwybod byth. Roedd ei marwolaeth yn gam yn ôl i ddemocratiaeth ac mae nifer yn dehongli ei marwolaeth i fod yn weithred merthyrdod (martyrdom) ar gyfer cael Pakistan gwell neu rywbeth teimladwy fel hynny. Bu reiat dros Bakistan wedi’r llofruddiaeth ac roedd y wlad yn ansefydlog. Dim ond yn 1947 ddigwyddodd ei enedigaeth wedi Rhaniad i gymharu â’r cannoedd o flynyddoedd o Loegr fel gwlad wedi'i ymsolido neu hyd yn oed Cymru fel gwlad unedig o dan Llewelyn Fawr a dan reolaeth Saesneg.
Dylifiad Taliban
I’r rhai ohonom sydd yn gwrthwynebu’r Taliban, mae’n rhaid cydnabod fod materion fel dinistr ecolegol a neo-imperialaeth Gorllewinol sydd yn effeithio eu ffordd o fyw yn uniongyrchol yn achosi eithafion; edrycha ar Iran.
Mae diffyg cefnogaeth llywodraeth gan bobl Pakistan, yn enwedig wrth gysidro taith y Llywydd Zadari i Brydain tra roedd pumed o’i famwlad danddwr; bomio stwff bwyd gan y Taliban; y Taliban yr unig rai i gydlynu gweithred cymorth lwyddiannus; mae’r ymosodiad diweddar yn ne ddwyrain Afghanistan, yn yr ardal sydd wedi creu dadl boeth y Dalaith Helmand, wedi gwthio llawer iawn o bersonél Taliban i’r de, i ogledd orllewin Pakistan, lle mae’r Unol Daleithiau wedi cyflwyno’r Gyfraith Shariah i geisio dod yn gyfeillgar gyda’r bobl leol; mae Pakistan wedi cael ei fomio i ddarnau, yn enwedig y ddinas hanesyddol a metropolitan Lahore, sydd yn ddyledus i’r dylifiad o Derfysgaeth Islamaidd yn cael tanwydd gan wledydd fel Saudi Arabia.
Y Madrassahs
Mae Pakistan yn gwario 2% o’i gyllideb ar ysgolion tra mae’n gwario llawer mwy na hynny ar ei gyfleusterau niwclear. Yr unig ysgolion sydd ar gael ar led, sydd wedi codi ym Mhakistan yn fwy sydyn nag Starbucks ym Mhrydain, ydy’r madrassahs sydd yn cael eu ariannu gan lywodraeth Saudi Arabia lle mae barn caled a uniongred hynod o Islam, adnabyddir fel Wahabi Islam, yn cael ei ddysgu. Nid wyt yn cael addysg fel y rhai mae nifer o wledydd yn gynnig; ieithoedd tramor, mathemateg, Saesneg, gwyddoniaeth; ti’n cael dy ddysgu am y Qur’an o glawr i glawr ac yn cael bwydo’r ideoleg eithafol hwn ar lwy. Os byddem wirioneddol eisiau brwydro eithafiaeth mewn gwledydd trydydd byd, byddem yn gwrthwynebu’r gwladwriaethau Gwlff sydd yn cychwyn troi’r olwyn trwy ysglyfaethu ar deuluoedd tlawd sydd eisiau addysg i’w plant. Os ydym wirioneddol eisiau gwrthwynebu’r Taliban yna pam ddim gwrthwynebu’r pethau sydd yn gadael i’r fath feddylfryd dyfu a chrawni? Mae’r fath lofruddio honedig o bobl y genedl, imperialaeth economaidd, ‘pobl goll’ Pakistan, y rhyfel yn Afghanistan, yr ymyrraeth Orllewinol yn y Dwyrain a rhyfeloedd ble mae olew yn cael mwy o barch na gwaed pobl.
Y Llifogydd
Eisiau gwrthwynebu’r Taliban? Gwna beth bynnag sydd yn bosib i ddioddefwyr llifogydd Pakistan – casglwyd tua 10 miliwn o ddoleri yn America yn dilyn y daeargryn diweddar yn Haiti drwy gynllun ‘neges testun’ oedd yn gadael i bobl yrru rhodd i helpu’r rhai wedi anafu, tra llwyddodd cynllun tebyg i’r rhai wedi’i effeithio gan y llifogydd gasglu dim ond $25,000.
Hwn ydy’r meddylfryd sydd wedi cael ei fwydo i ni trwy’r cyfryngau, fod Pakistan yn llawn ‘terfysgwyr’ yn ddyledus i’r dylifiad mawr o Taliban Afghanistan; mae Pakistan wedi colli mwy o bobl i derfysgaeth ar ei bridd nag 9/11 a 7/7 gyda'i gilydd a llawr iawn mwy. Dydy’r cyfryngau ddim yn sôn am hyn.
Os nad oes cynllwyn cydlynu i helpu’r rhai wedi’i heffeithio gan y llifogydd, bydd gwactod gall y Taliban gymryd mantais ohono, lle mae llinyn pypedau llywodraeth wedi disgyn. Os wyt ti’n gwrthwynebu terfysgaeth Islamaidd, gwna rhodd i’r gronfa trychineb llifogydd Pakistan.
Gwybodaeth » Y Byd, Ewrop, y DU a Chymru » Gwleidyddiaeth » Gwleidyddiaeth Gweddill y Byd
DELWEDD: Pakistan Flood 2010 by shirazbashir







