Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Enillydd NadoCLIC

Posted by Sam (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 03/01/2012 at 12:28
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, Technology

  • nadoCLIC

English version

Boneddigion a boneddigesau, bechgyn a merched, dwi'n falch o gyhoeddi fod prif gyngor CLIC wedi penderfynu ar enillydd.

Fedra i ddim cyhoeddi hyn eto gan fod rhaid padio'r erthygl hon fel ei fod yn cyrraedd y cyfrif geiriau angenrheidiol (sgrolia i lawr os ti methu dioddef y waffl).

Dyblodd CLIC ei dwrci NadoCLIC yn 2011 gyda 24 o erthyglau yn traflyncu'r 12 o 2010. Daeth y 24 erthygl yma o ar draws Cymru a'r rhwydwaith CLIC; un o Shouttawe (Abertawe), dau'r un o Dorfaen, Fflintyr Ifanc, Swoosh (Bro Morgannwg) ac Ieuenctid Sir Gâr, pedwar o Wicid (RCT) ac un ar ddeg gan theSprout (Caerdydd).

Nid oedd pob un yn erthygl arferol chwaith; cawsom luniau, rhestrau chwarae, ychydig o farddoniaeth, fideo a hyd yn oed rysáit! Gwledd i'r prif gyngor CLIC gael cnoi drosto, dwi'n siŵr fod ti'n cytuno.

Ond cnoi drosto, a nifer o bethau eraill, gwnaethant ac mae'r canlyniad yn fy llaw – napcyn Nadoligaidd gydag enw'r enillydd wedi'i ysgrifennu mewn hen refi, wedi'i danlinellu gyda darn o furcula (dyna'r enw cywir am asgwrn tynnu – ti'n gweld, mae yna ddoethineb i'm waffl weithiau) ac wedi'i atalnodi gyda rhywbeth gwyrdd sydd ddim yn edrych yn lan nac yn iach.

Felly heb ddim mwy o lol, gan fy mod i'n sicr fy mod i wedi cyrraedd y cyfrif geirfa, mae'n bleser gen i gyhoeddi mai enillydd y bwndel Nintendo 3DS Rhew Gwyn a Super Mario 3D Land ydy…

NadoCLIC #7

Hoffwn longyfarch MarshMallo ar lwyddiant teilwng ac i ddweud diolch yn fawr iawn i bawb gystadlodd, darllenodd, gadawodd sylwadau neu rhannodd y neges NadoCLIC, i Tania CLIC am ei sgiliau cyfieithu gwallgof, Dan CLIC am gamu i mewn pan ddiflannais i Gernyw am gwpl o ddiwrnodau a diolch mawr iawn i Lola CLIC am ei gwaith dylunio anhygoel ac am ddiweddaru'r calendr. Gobeithio bydd pawb yn cael 2012 gwych, fydd wrth gwrs yn cael ei gloi gyda NadoCLIC 2012!

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.