Ennill Dwbl Dy Grant!
Wedi’i lansio mewn amser ar gyfer Wythnos Y Glas, dyma gyfle i dri myfyriwr fynd trwy eu blwyddyn gyntaf yn y Brifysgol yn rhydd o ddyled!
Nid yw’n anghyffredin i fyfyriwr fod dros £5,000 mewn dyled am bob blwyddyn o astudio*, ac i amlygu’r sialens ariannol mae ieuenctid heddiw yn wynebu, mae’r gwerthwyr ffonau symudol Phones 4u yn rhedeg cystadleuaeth ar Facebook i dri myfyriwr ennill £4,950 yr un, yr un peth a’r benthyciad cynhaliaeth myfyriwr cyfartalog am eu blwyddyn gyntaf.
Mae’r gystadleuaeth yn dod mewn ffurf rhaglen Facebook, sydd yn gofyn i rai sydd yn cystadlu i lenwi Cais Benthyciad ffug ynghyd â lluniau a fideos ohonot yn edrych yn dlawd ac yn byw ar Bot Nwdls neu weithgareddau eraill tebyg i fyfyriwr. Yn ychwanegol i’r tri phrif wobr, bydd myfyrwyr yn cael y cyfle hefyd i ennill tab bar £3,000 yn dy Undeb Myfyriwr. Wow. (Nodyn Iechyd a Diogelwch: Y syniad yw defnyddio’r tab hwn am barti mawr, nid ar gyfer defnydd personol.)
Dyddiad cau ymgeision ydy 22ain Hydref 2010. Gall ddarganfod y Rhaglen Facebook ar http://www.facebook.com/Phones4u
Dywedodd Russell Braterman, Rheolwr Gyfarwyddwr Phones 4u: “Rydym yn rhedeg y gystadleuaeth mewn adnabyddiaeth o’r pwysau ariannol mawr a’r ddyled sydd yn wynebu myfyrwyr heddiw, ac felly eisiau gwneud ein rhan i helpu drwy gynnig cyfle i’r ychydig lwcus i gadw’r ddyled yna i lawr.”
*Gwybodaeth wedi ei gymryd o arolwg Mintel Ffordd o Fyw Myfyrwyr – Prydain – Mehefin, 2010.
Linciau:
Facebook: Cystadleuaeth








