Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Ennill Epig Ganoloesol!

Posted by CLICdan from Vale Of Glamorgan - Published on 17/09/2010 at 14:58
0 comments » - Tagged as History

  • epic
  • epic2

English version

Gall ffilmiau tramor fod yn gampweithiau llwyr, ond yn aml mae yna broblem fach o rwystr iaith pan ddaw i gynulleidfaoedd sydd yn siarad Saesneg. Tra mae ffilmiau yn gallu cael eu hail-wneud yn Saesneg, yn hytrach na ychwanegu isdeitlau, gall hyn fod yn broses hir a dim ond yn rhywbeth i wneud ar gyfer y ffilmiau gorau un.

Yn 2007, cafodd y llyfr cyntaf yng nghyfres boblogaidd y Crusader Trilogy gan yr awdur Swedaidd Jan Guillou ei droi mewn i ‘blockbuster’ antur ffantasi canoloesol llwyddiannus, o’r enw Arn – Tempelriddaren. Ond gan ei fod mewn Swedeg, dwi ddim wedi ei weld – ond mae IMDb yn rhoi 6.4 allan i 10 iddo a gall wylio’r hysbyslun gwreiddiol ar ochr y dudalen.

Tair blynedd wedyn ac mae’r ffilm yn barod i gael ei ryddhau ym Mhrydain ac mae tri chopi ohono gennym i roi i ffwrdd cyn y dyddiad rhyddhau swyddogol.

Mae Arn: The Knight Templar yn stori  epig ganoloesol o ryfel, bradwriaeth, cynllwyn a chariad wedi gosod yn oes y Crusades: rhyfel crefyddol creulon rhwng Cristnogion a Mwslemiaid. Yn cael ei ddisgrifio fel epig Swedaidd gofiadwy, ac yn sicr o apelio i rai sy’n hoff o Assassin’s Creed, hoffem wybod beth wyt ti’n feddwl ohono.

Eisiau cyfle i gael gafael ar gopi am ddim? (Ac os wyt ti’n teimlo’n greadigol, ysgrifenna adolygiad unwaith ti wedi’i wylio?)

Gyrra e-bost i dan@cliconline.co.uk gyda’r pennawd “Ennill Epig Ganoloesol”, a chynnwys dy enw defnyddiwr CLIC a manylion am y ffordd gorau i gysylltu gyda thi.

Byddwn yn tynnu enwau o’r het wythnos nesaf, ac yn trefnu i’r enillwyr dderbyn eu gwobr trwy eu grŵp golygyddol lleol (neu, os nad ydy un ti wedi’i sefydlu eto, fe bostiwn i ti.

Mae’n rhaid bod dros 15 oed i gystadlu.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.