Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Enwebiad Gwobrau I Wneuthurwyr Ffilm Ifanc

Posted by CLICtania from National - Published on 02/02/2010 at 06:09
0 comments » - Tagged as Art, Culture, Movies, People, Yn Gymraeg

  • Photo 1
  • Photo 2
  • Photo 3
  • Photo 4

English Version

Mae dwy ffilm sydd wedi ei greu gan bobl ifanc o Gymru wedi cael eu henwebu am Wobr Ffilm Genedlaethol.

Ffilm fer wedi’i greu gan naw o bobl ifanc rhwng 13 a 15 oed ydy Chucks, canlyniad o weithio gyda chwmni Film 15 o Lanbrynmair. Mae wedi cael ei enwebu yng nghategori ‘Ffilm Gorau gan rai dros 13 oed’ yn yr First Light Awards 2010.

Mae’r ffilm yn dweud stori Chuck sydd yn rhedeg caffi yng nghanol unlle ac mae wedi arfer gyda phentrefwyr yn busnesa. Pan benderfynai’r hogyn drwg lleol Ted a’i gang ymgartrefu yn y caffi mae Chuck yn cael ei orfodi i ddangos ei ochr sinistr.

Mae ‘Chucks’ wedi ennill gwobrau eisoes gyda’r ‘Pink Snowball Film Awards 2008’, enillydd Ffuglen Orau'r ‘International Young Filmakers Award 2009’, a ‘Glastonbury 2012 Olympics “Village Screen” Selection 2009’.

Katy Ruffy o Ddolgellau sydd wedi ysgrifennu a chyfarwyddo’r ffilm, ei ffilm fer cyntaf. Cafodd ei ffilmio yn yr hen Milk Bar ym Machynlleth ac yn serennu ynddo oedd Tom Jones o Borth, Scott Wilson o Bermo, Cara Braia o Borthmadog a James Lucas o Fachynlleth.

Mae’r prosiect Film 15 yn ceisio helpu pobl ifanc ddarganfod llais creadigol trwy ffilm. Bob blwyddyn mae 15 o bobl ifanc yn cael y cyfle i weithio efo nhw yn astudio gwneud ffilmiau am chwe mis.

Yn beirniadu’r categori bydd y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr Fred Schepisi ((Empire Falls, Fierce Creatures), Kwame Kwei-Armah (Hotel Babylon, Casualty) a Robert Sheehan (Misfits). Maen nhw’n cystadlu yn erbyn dwy ffilm wedi’i greu yn Swindon a Leeds.

Mae’r ail ffilm, Mary and the Miners, wedi’i greu gan 46 o bobl ifanc naw i ddeg oed o Ysgol Gynradd Cantref yn Y Fenni, Sir Fynwy. Drwy weithio gyda gwneuthurwyr ffilmiau proffesiynol Flycatcher Films creuwyd y ffilm fer sydd wedi cael ei enwebu yng nghategori ‘Animeiddiad Gorau’

Mae’r ffilm wedi ei osod yn 1841 ac yn dweud stori merch ifanc sydd yn gweithio mewn pwll glo. Mae’r hanes a glywir yn y ffilm wedi’i selio ar gyfweliadau go iawn gyda glöwr ifanc yn 1841. Bydd y ffilm yn cael ei feirniadu gan y cynhyrchydd a’r cyfarwyddwr Rob Minkoff (Stuart Little, The Lion King), dylunydd cynhyrchiad Terry Ackland-Snow (Batman, Superman) a’r cyfarwyddwr John Landis (Honey I Shrunk The Kids).

Mae’r ‘First Light Awards 2010’ yn cael eu cynnal yn yr ODEON Leicester Square, Llundain, ar 2 Mawrth ac yn cael ei gyflwyno gan Dick a Dom. Mae ‘First Light’ yn darparu arbenigedd ac yn ariannu i alluogi pobl ifanc 5 i 19 oed, o bob cefndir ym Mhrydain, i wneud ffilmiau byr digidol a phrosiectau cyfryngol eu hunain. Mae’r bobl ifanc hyn yn cael cyfle gwych i weithio gyda phobl broffesiynol o’r diwydiant.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.