Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Fflic Fflac: Super 8

Posted by neilramsden from Cardiff - Published on 11/08/2011 at 10:00
0 comments » - Tagged as Movies

  • SUPER8

English version

Super 8
Cyfarwyddwr: JJ Abrams
Gyda: Joel Courtney, Ellen Fanning, Kyle Chandler
12A, 112munud

Pan fydd ffilm yn cael un neu ddau adolygiad pum seren, yn dweud fod y ffilm yma yn glasur, mae yna bob tro nifer sylweddol o bobl yn barod i ychwanegu at y ddadl a dweud fod y ffilm 'yn un gwaethaf y flwyddyn', efallai dim ond i fod yn wahanol. Fe ddioddefodd Inception o hyn ac ymddangosai fod Super 8 hefyd. I ddweud y gwir nid yw'n glasur nac yn ofnadwy – mae'n ychydig yn anwreiddiol ac anrhyfeddol, ond yn hwyl fawr.

Mae Super 8 yn deyrnged i'w gynhyrchydd, Steven Spielberg, a'i ffilmiau megis ET, Close Encounters of the Third Kind ac un o fy ffefrynnau o'm mhlentyndod, The Goonies. Mae'r ffilmiau yma wir yn disgleirio drwy Super 8, ac mae'r synnwyr cynnes o hiraeth yn ychwanegu llawer i'w bleser. Grŵp o fechgyn ifanc, antur, perygl, dirgelwch ac estronwyr – y rhan fwyaf o'r rhain yn bresennol yn y ffilmiau roeddwn i'n ei garu'n tyfu fyny, ac mae Super 8 yn teimlo'n eithaf cyfarwydd oherwydd rhain; mewn ffyrdd da a ddim mor dda.

Wrth gadw at y natur gyfrinachol o hyrwyddiad y ffilm, yr unig beth sydd yn rhaid i ti wybod ydy fod grŵp o ffrindiau yn gwneud ffilm zombie ac maent yn dyst i ddigwyddiad mae'r fyddin yn ceisio'i gadw'n ddistaw a chyn hir mae pethau od iawn yn dechrau digwydd yn y dref fach maent yn byw ynddi. Fel un o ffilmiau eraill JJ Abrams, Cloverfield, mae'r golygfeydd cynnar o Super 8 mor dda, a ti'n teimlo mor gyffyrddus gyda'r cymeriadau fel dy fod di'n anghofio mai ffilm anghenfil ydy hwn nes iddo ymddangos gyda ffrwydrad. A ffrwydrad mawr iawn hefyd, gyda Super 8 yn brolio un o'r gwrthdrawiadau trên mwyaf dramatig mewn sinema.

Mae hanner cyntaf y ffilm yn wych, gyda'r digwyddiadau cynyddol dirgel yn datblygu, yn pryfocio gyda chipolwg sydyn iawn o 'rywbeth', a'r prif gymeriadau yn cychwyn rhamant letchwith sydd yn gwneud i bawb wenu ac yn atgoffa ni o fod yn ifanc, pan roedd hoffi rhywun y peth mwyaf pwysig yn y byd. Mae'r perfformiadau gan yr actorion ifanc yn wych, yn enwedig Joel Courtney fel y prif gymeriad Joe, a Elle (chwaer fach Dakota) Fanning. Mae'n beth prin iawn i blant mewn ffilmiau beidio bod yn llidus, ond mae'r rhain yn gymeriadau hoffus iawn. Cadwa olwg allan am Joel Courtney fel Tom Sawyer yn y blynyddoedd nesaf.

Mae'r ffilm yn crwydro tipyn yn yr ail hanner, gydag ychydig iawn o ddirgelwch a diweddglo siomedig. Ond yna, roeddwn yn caru'r ffilm yma am fod yn stori gyntaf ac yn llawn effeithiau arbennig yn ail; dwi'n dychmygu fod llawer o ffilmiau'r dyddiau hyn yn cael eu creu drwy ysgrifennu golygfeydd sydd yn dwysau, ac yna'n cael plot llac i gysylltu popeth at ei gilydd. Mae Super 8 efo stori ag enaid, ac yn defnyddio effeithiau arbennig pan fydd angen gydag effaith gwych.

Fe wnaeth y cylchgrawn ffilm Little White Lies bwynt prydferth ar pam fod yr hen ffilmiau yma o'n plentyndod mor dda: gan eu bod yn siarad â'r oedolion o fewn plant ac i'r plant o fewn oedolion. Mae Super 8 yn bendant yn siarad â'r plant o fewn oedolion ac efo dealltwriaeth dda o beth sydd yn bwysig i blant. Ond dwi ddim yn sicr os ydy'r ffilm yma i blant, sydd yn od oherwydd, heblaw am y rhegi, byddai hwn yn ffilm wych i bob oed.

Er nad yw Super 8 y clasur roeddwn yn gobeithio amdani, mae'n parhau i fod yn ffilm sydd yn diddanu ac yn gwneud yn union beth mae'n bwriadu yn brydferth: mae'n dweud stori, yn adeiladu atmosffer, yn gwneud i ni hoffi a theimlo dros y cymeriadau, yn gwneud i ti neidio a chwerthin a syllu'n geg agored. Fe es adref gyda gwen ar fy wyneb.

facehugger.tumblr.com

Newyddion » Categorïau » Ffilmiau

Rhestr lawn o Fflic Fflacs blaenorol

Erthygl berthnasol: Adolygiad: Super 8

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.