Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Ffordd Newydd o Gael Cymorth

Posted by infinvflints from Flintshire - Published on 21/09/2010 at 16:19
0 comments » - Tagged as Health, People, Topical

  • dan

English version

Mae ffordd newydd o gael cymorth gyda phroblemau cyffuriau ac alcohol wedi cael ei lansio.

Mae’r gwasanaeth neges testun am ddim – gall ddefnyddio drwy yrru neges ‘DAN’ a dy gwestiwn i 81066 – wedi cael ei ddatblygu gan y GIG yng Nghymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Bydd y gwasanaeth yn helpu pobl sydd angen cymorth i reoli problemau camddefnyddio sylweddau eu hunain ac i deulu a ffrindiau sydd eisiau darganfod pa wasanaethau sydd ar gael i helpu rhywun maent yn adnabod.

Mae DAN 24/7 yn wastad wedi rhedeg llinell ffôn rhif 0800 am ddim, ond mae rhai rhwydweithiau ffônau symudol yn codi am y galwadau hyn. Mae nifer o’r galwyr i DAN 24/7 yn defnyddio ffônau symudol yn unig a does ganddyn nhw ddim ffôn fel arall, felly roeddent yn gorfod talu i gysylltu â’r llinell gymorth.

Nawr, gall defnyddwyr ffôn symudol gymryd mantais o unrhyw becynnau neges testun am ddim sydd ganddynt a chael y cymorth a’r gefnogaeth maent angen.

Dywedodd Janet Roberts, Rheolwr y Llinell Gymorth, “Mae’r gwasanaeth DAN 24/7 yn wastad yn chwilio am ffyrdd i wneud yn haws i bobl gyda phroblemau camddefnyddio sylweddau i gael cymorth ac mae lansiad y gwasanaeth neges tesun yn gwneud i hynny ddigwydd.

“Os roedd cost ffonio’r gwasanaeth yn broblem, yna nawr mae posib cysylltu gyda ni am ddim os ydy eu pecyn yn caniatáu hyn. Naill ffordd neu llall, rydym yn galw pobl yn ôl ar ffonau symudol os ydynt eisiau i ni wneud hynny. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ariannu’r fenter newydd yma ac rydym yn sicr y bydd yn llwyddiant mawr.

“Gyda gwybodaeth ar gael ar ein gwefan, drwy ffonio ac nawr trwy neges testun mae’r gwasanaeth wedi datblygu i fod yn un pwynt mynediad aml-sianel ar gyfer Cymru gyfan, i gyd gyda’r bwriad o helpu unigolion a theuluoedd lle mae eu bywydau wedi cael ei effeithio gan gyffuriau neu alcohol.”

Mae DAN 24/7 (Llinell Gymorth Cyffuriau & Alcohol Cymru) yn darparu cymorth a gwybodaeth i unrhyw un sydd yn poeni am eu camddefnydd sylweddau/alcohol eu hunain neu gan deulu neu ffrind. Mae’r gwasanaeth yn rhedeg 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.

Rhadffôn 0800 633 5588 neu neges testun DAN i 8106

www.dan247.org.uk

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.