Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Fi Y Cyflwynydd

Posted by WWPR from Neath Port Talbot - Published on 30/09/2010 at 12:19
0 comments » - Tagged as Education, School Holiday Activities, Technology

  • Winner of Presenting Comp

English version

GEIRIAU: Sam Ebenezer

Roeddwn i mor nerfus yn mynd i Gaerdydd i fod yn gyflwynydd am bedwar diwrnod. Doeddwn i ddim yn gallu credu fy mod i wedi ennill. Roeddwn wrth fy modd.

Roedd y digwyddiad SgiliauCymru yn anhygoel. Roedd yn syniad gwych i bobl o bob oedran ddarganfod pa yrfa y dylent ddilyn.

Cychwynnodd y ffilmio ar y pnawn dydd Mercher. Roedd Michelle (enillydd arall y gystadleuaeth) a finnau yn mynd i wneud ffilm fer ar gyfer y Seremoni Agoriadol.

Roedd hwn i annog pobl i ddod i Stadiwm y Mileniwm ar y tri diwrnod o ddydd Iau 16 i ddydd Sadwrn 18 Medi.

Roedd ennill y gystadleuaeth Byddwch Yn Gyflwynydd yn gyfle da ac yn brofiad gwych. Roeddwn wedi gwneud ychydig o gyflwyno ar y cyd ynghynt, ond dim byd o’r maint yma. Bob dydd roeddem yn ffilmio mewn dau o’r chwe gwahanol sector: Peiriannu, TG a Gweinyddu Busnes, Gwasanaethau Proffesiynol a Lletygarwch, Celfyddydau Diwylliannol a Chreadigol, Amgylchedd Adeiledig a  Chyngor, Addysg a Hyfforddiant.

Roedd y sectorau i gyd o ddiddordeb i mi mewn nifer ffyrdd gwahanol, Nid oeddwn wedi disgwyl i’r parthau Peiriannu ac Adeiladu fod mor ddiddorol a chynorthwyol. Roedd y parthau hyn, ynghyd â’r parth Cyngor, Addysg a Hyfforddiant yn hwyl dda gan fod ganddynt nifer o arbrofion ymarferol, oedd yn eu gwneud yn bleserus.

Ar y diwrnod diwethaf, dydd Sadwrn, cefais agor y gystadleuaeth Brwydr Y Bandiau CLIC. Dim ond dau o’r bandiau cefais weld ac roedd y safon yn drawiadol. Cafodd yr enillwyr The Hostages, o Lanidloes, chwarae ar y Llwyfan Perfformio Sgiliau, lle cyflwynwyd gan Michelle a finnau.

I unrhyw un sydd â diddordeb mewn bod yn gyflwynydd byddwn yn awgrymu yn fawr dy fod yn ceisio yn y gystadleuaeth hon os cei gyfle. Roeddwn i yn falch o ymgeisio a chefais brofiad gwych.

Hafan » Gwybodaeth » Cyflogaeth a Hyfforddiant » Prentisiaethau a hyfforddiant

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.