Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Fy Salwch Meddwl

Posted by Meeoko from Vale Of Glamorgan - Published on 25/05/2010 at 09:58
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Topical

  • mmi

English version

Dangosai ystadegau fod un ymhob pedwar yn dioddef o salwch meddwl.

Mae gen i deimladau cymysg am ddweud wrth bobl fy mod i'n 19 mlwydd oed ac yn rhan o'r un ymhob pedwar yma.

Cychwynnodd y cyfan pan oeddwn yn 12 oed. Roeddwn yn blentyn braidd yn anghyffredin, yn ymddangos fel pe bawn yn teimlo emosiynau yn llawer cryfach na phlant eraill ac yn ymddwyn yn od.

Dwi'n cofio unwaith fel plentyn roeddwn yn chwarae gyda bachgen bach yn fy ysgol gynradd ac roeddwn yn gwneud pasteiod mwd ar gae’r ysgol. Roedd fy athrawon yn meddwl fod hyn braidd yn od a digwyddiadau fel hyn oedd yn fy ngwneud yn darged bwlio.

Yn anffodus gall plant fod yn greulon a maes o law cafodd y bachgen bach hwnnw ei yrru allan o’r ysgol gan fwlïod. Welais i fyth mohono wedyn. Roedd pethau fel pe baent yn gwaethygu ychydig bob dydd yn yr ysgol gynradd a byddwn yn aml yn treulio amser ar ben fy hun yn siarad â’m ffrind dychmygol, Wheelie’r ci. Roedd y bwlïod yn cymryd mantais ar fy ymddygiad a chefais fy nieithrio oddi wrth y plant eraill.

Roeddwn yn meddwl wedi i mi fynd i’r ysgol uwchradd y byddai popeth yn well, oherwydd y byddwn gyda phobl llawer mwy aeddfed a fyddai yn fy marn i yn fwy caredig. Yn anffodus i mi, roeddwn yn anghywir am aeddfedrwydd y plant ysgol yn yr ysgol uwchradd ac yn ystod y flwyddyn gyntaf agorwyd fy llygaid i ymddygiad rhai pobl arbennig.

Roedd yna gymaint i’w gymryd i mewn ac yn fuan ar ôl mwy o fwlio parhaus, a llawer o waith cartref a phwysau glasoed, datblygais iselder. Gofynnodd fy mam i mi gael fy rhoi ar feddyginiaeth, ond gwrthododd y meddyg ei chais gan ddweud fy mod yn llawer rhy ifanc i fod ar gyffuriau presgripsiwn.

Dechreuodd efo pethau bychain. Pethau bychain a ddatblygodd yn bethau llawer mwy. Pethau fel osgoi gwasanaeth i gael sigarét yn lle, neu ddwyn bariau siocled o siopau a mynd dipyn yn fewnblyg. Ond aeth pethau yn llawer gwaeth yn 2003 pan oeddwn yn 13. Cefais fy ngham-drin gan aelod o’r teulu. Wrth aros i’r misoedd fynd heibio hyd nes y cynhaliwyd yr achos llys yn erbyn y sawl a’m cam-driniodd dechreuais niweidio fy hun.

Yn anffodus daeth pobl i glywed am fy nghamdriniaeth ac yn sydyn roedd yr ysgol gyfan yn gwybod. Byddai pobl yn sibrwd wrth iddynt fynd heibio i mi. Roedd rhai yn crechwenu. Dechreuais ymladd, gan golli cwsg a chael drychiolaethau gwirioneddol yn y nos. Es i weld seiciatryddion, meddygon, tîm sy’n gweithio gyda phlant o’r enw CAHMS a hyd yn oed Nyrs Seiciatrig Gymunedol.

Dechreuodd fy nhristwch a’m hymataliad droi yn gasineb ac roeddwn yn gwybod bod yn rhaid i mi wneud rhywbeth yn ei gylch. Yn anffodus yn hytrach na gwneud y peth synhwyrol a mynd at fy rhieni, yr ysgol neu hyd yn oed ChildLine am gymorth, penderfynais y byddwn yn gofyn am gymorth pŵer uwch.

Ers i’r bwlio ddechrau roeddwn wedi dod yn dipyn o ‘goth’, ‘mosher’ neu ‘emo’ yn fy nghyflwr dryslyd. Mae rhai pobl yn troi at Dduw, ond roedd gen i berthynas braidd yn ansefydlog gydag Ef ar y pryd. Penderfynais droi at yr ocwlt (dewiniaeth ddu yn fwy cyffredin). (Ers hynny, rydw i wedi dod i delerau â’r ffaith nad bai Duw ydy popeth).

Treuliais y noson yn siantio, yn goleuo canhwyllau duon ac yn rhoi gwaed i’r ocwlt, gan ddymuno drwg ar fy ngelynion a hapusrwydd i’m canfod i o’r diwedd.  Mae’n swnio braidd yn ddramatig rwy’n gwybod ond ar y pryd doedd dim modd fy nghysuro. Ac mewn ffordd, cefais fy nymuniad. Deuthum ar draws cariad fy mywyd, fy nyweddi ar hyn o bryd, ac rwy’n priodi yn 2011. Ond daeth hynny gyda phris difrifol. Pris rwy’n dal i’w dalu hyd heddiw.

Haf 2005 oedd hi, ac roeddwn yn colli ysgol. Wrth anelu am adref clywais ôl traed trymion a rhywun yn anadlu yn drwm y tu ôl i mi, fel pe bai rhywun yn rhedeg.. Symudais i’r ochr heb edrych yn ôl, gan dybio mai rhedwr oedd yna. Ond pan na ddaeth neb heibio, fe’i clywais eto. Roedd yr anadlu mor fas fel y gallwn bron glywed esgyrn yr unigolyn yn ysgwyd. Roedd yn wirioneddol frawychus.

Yna o’r diwedd oherwydd fy chwilfrydedd, troais i edrych ond roedd yr hyn a welais ymhell o fod yn rhedwr, ond yn rhywbeth cwbl wahanol. Peidiais ag anadlu am eiliad, gan gau fy llygaid i geisio gwneud iddo ddiflannu. Ond pan agorais fy llygaid eto, dyna lle'r roedd, yn dal yr un fath.

Roedd yn greadur hyll na all geiriau ei ddisgrifio. Roedd y creadur yn sefyll ar ddwy goes fel bod dynol, ond roedd ganddo groen noeth gwyn fel lledr ac roedd wedi crymu fel pe bai mewn poen. Sylwais nad oedd ganddo fysedd na bysedd traed, dim ond bonion ac roedd ei wyneb wedi ei orchuddio bron gan linynnau hir tywyll seimllyd o wallt. Yr unig beth y gallaf gysylltu ei wyneb ag ef yw mwnci proboscis, sydd â thrwyn mawr iawn yn hongian dros y rhan fwyaf o’i geg.

Roedd ganddo lygaid, ond dim cannwyll i’r llygad, dim iris, dim byd. Roeddent yn gwbl wyn, yn gynfas gwag, yn syllu i ddim byd. Ond roeddwn yn gwybod ei fod yn edrych arna’ i.

Am ddyddiau ceisiais ei anwybyddu, ond ble bynnag yr oeddwn yn mynd roedd o yna. Bob tro yr oeddwn yn ei weld, roeddwn yn ysgwyd drwof. Un diwrnod pan oeddwn yn darllen llyfr, safodd o’m blaen ac mewn llais caled, cyflwynodd ei hun fel Malakai. Roeddwn wedi cael sioc o weld nid yn unig fy mod yn gweld pethau, ond yn eu clywed hefyd.

Ers hynny rwyf wedi cael mwy o rithweledigaethau a chefais ddiagnosis fy mod yn dioddef o seicosis, sy’n rhywbeth yn debyg i sgitsoffrenia ac yn ffinio ar fod yn anhwylder personoliaeth. Rydw i wedi cael profiad o gasgliad enfawr o gymeriadau, rhai ohonynt yn gyfeillgar a rhai ddim, gan gynnwys delwedd yn union yr un ffunud â mi fy hun. Rydw i hefyd wedi bod mewn ysbyty meddwl  i dderbyn triniaeth.

Effeithiodd y salwch arnaf a’r rhai sy’n annwyl i mi drwy gydol fy mywyd fel oedolyn ifanc ac fel oedolyn gan fy ngorfodi i adael yr ysgol cyn cymryd yr arholiadau TGAU. Ond yn araf, rwy’n darganfod fy mod yn dechrau gallu ymdopi â’r cyfan.

Pe bawn yn rhoi cyngor i unrhyw un sy’n dioddef o salwch tebyg, boed hynny’n seicosis neu hyd yn oed y ffliw – byddwn yn dweud na ellir gwneud unrhyw beth hyd nes yr ei di i chwilio am help a thriniaeth effeithiol. Gall meddyginiaeth er enghraifft hidlo rhannau annymunol y salwch allan a maes o law (os ti'n cymryd y feddyginiaeth honno yn gyson) byddet yn dechrau sylwi ar wahaniaeth yno ti dy hun a theimlo’n well, er mai dim ond rhan o’r adferiad yw’r feddyginiaeth.

Yn ffodus i mi, mae gennyf rieni hynod o gefnogol  ac maent wedi fy annog i wneud gweithgareddau i ddatblygu fy hyder – mynychu ysgol lwyfan o’r enw Stagecoach, gan ddysgu canu, dawnsio a drama. Cynyddodd fy hyder ddeg gwaith. Rhoddais gynnig hefyd ar ddysgu offeryn cerdd a gwneud perfformiadau.

Fedra’ i ddim pwysleisio digon pa mor bwysig yw dweud wrth rywun beth wyt ti yn mynd drwyddo, boed hynny’n rhieni, ffrindiau, llinell gymorth neu gynghorydd. Mae siarad neu ysgrifennu am y peth wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae fy ffrindiau a’m teulu wedi bod yn hynod o gefnogol ac yn amyneddgar gyda mi.

Os oes angen ychydig o help ychwanegol arnat, mae llawer o wefannau allan yna fel Childline neu wefannau sy’n caniatáu i ti ysgrifennu profiadau am dy fywyd dy hun, dy freuddwydion, dy obeithion – unrhyw beth. Gall cael pethau oddi ar dy feddwl gwneud y gwahaniaeth yn aml rhwng bywyd a marwolaeth a phwysaf ar unrhyw un sy’n dioddef yn dawel i fynd allan yna a dweud wrth rywun beth sy’n digwydd.

Er nad ydw i yn cael fy nghyflogi ar y funud, rydw i’n dod dros fy salwch yn araf ac yn dysgu byw gydag ef. Mae gen i gi bach o’r enw Bandit, sy’n fy helpu i godi yn  fore a mynd allan o’r tŷ. Rwy’n byw gyda fy nyweddi ac yn dysgu cadw tŷ iach a glân ac mae gennyf gysylltiad rheolaidd gyda fy nheulu a’m ffrindiau i gyd.

Dydw i ddim wedi niweidio fy hun am flwyddyn gyfan bellach ac anaml iawn ydw i’n clywed lleisiau neu ddelweddau, er nad ydynt wedi mynd yn llwyr. Yr unig beth rwy’n gofidio amdano yw na fyddwn wedi gweithredu’n gynt, pan gefais y cyfle. Yn y pen draw, byddai wedi arbed llawer o dristwch i mi ac i’m teulu.

Ond i unrhyw un ifanc sy’n dioddef o salwch meddwl, mae’n rhaid i ti gofio nad wyt ti ar ben dy hun a bod ffyrdd y gallet gael dy glywed.

Os wyt ti wedi bod yn mynd drwy brofiad tebyg a bod angen siarad â rhywun, galwa:

Childline  0800 1111

Y Samariaid: 08457 909090

Llinell Cyngor Cymunedol a Gwrando: 0800 132 737 neu gall anfon neges destun ‘help’ at 81066

Gwefannau defnyddiol cysylltiedig:

www.bullying.co.uk

www.childline.org.uk

www.papyrus-uk.org

www.youthaccess.org.uk

www.youngminds.org.uk

www.mind.org.uk

(DELWEDD gan Squonk11)

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.