Fydd Y Chwyldro Ddim Ar Y Teledu, Gyfaill
English version
Cafwyd trafodaeth ddiddorol iawn gan Sefydliad Cerddoriaeth Gymreig dydd Gwener, 8fed Hydref, yn y Galeri yng Nghaernarfon, a rhoddwyd cyngor defnyddiol i fandiau ifanc sydd yn ceisio bod yn llwyddiant y dyddiau hyn.
Roedd y drafodaeth, o’r enw ‘Fydd y chwyldro ddim ar y teledu, gyfaill – y cyfryngau yng Nghymru a’r byd’, yn siarad am y rôl sydd gan y cyfryngau heddiw mewn cyfrannu at lwyddiant bandiau ac artistiaid yng Nghymru.
Roedd panel o bobl yno yn ateb cwestiynau wedi’i gosod a chwestiynau gan y gynulleidfa. Y panel oedd: Gareth Iwan (cynhyrchydd – Radio Cymru); Iwan Standley (arbenigwr y We/Rondo); Barry Thomas (Golwg); Adam Walton (cyflwynydd – Radio Wales) a Gethin Evans (cyflwynydd – Gofod/Cerddoriaeth Gymunedol Cymru).
Cyfleoedd
Y pwnc cyntaf iddynt drafod oedd y ddarpariaeth o gyfleoedd cerddorol ar S4C. Roedd llawer o drafodaeth am y rhaglen ffurf cylchgrawn Gofod a’r ffaith fod bandiau yn chwarae yn ystafell fyw ffans ar y rhaglen.
“Tydi cael band yn chware yn ystafell fyw rhywun ddim yn cynhyrchu’r sownd gorau, er esiampl mae Plant Duw yn grêt yn fyw gyda llwyth o egni ond mewn ystafell fyw rhywun mae'n gwneud iddyn nhw edrych yn wael. Ydy hyn oherwydd y cyllid isel sydd yno i’r fath yma o raglen?” gofynnodd Barry Thomas.
“Roedd o’n gamgymeriad cael gwared ar Uned 5. Roedd hwn yn rhaglen adloniant lle'r oedd y teulu cyfan yn gallu eistedd a’i wylio heb sylwi eu bod yn gweld band byw bob wythnos.”
“Efo Bandit, brand oedd pob dim, fel Stwnsh a Cyw ac ati. Dwi’n gweld colled. Pan ti’n 16 neu 17 a ti’n gweld y fideos yma ti’n weld o’n wahanol. Fel chwyldro. Ti ddim yn cael hyn efo rhaglenni fel Nodyn. Fe ddyla’ nhw ddod a Bandit yn ôl, rhywbeth cŵl a ffres fel y stwff mae Adam efo ar ei raglen o.”
Mae Adam Walton yn cyflwyno rhaglen byw 3 awr o gerddoriaeth Cymraeg bob dydd Sul am 10yh ar Radio Wales. “Os ti methu gwneud o’n dda yna oes pwynt ei wneud o gwbl?” gofynnai.
Roedd Adam yn pwysleisio’r ffaith hefyd fod gwahaniaethau yn y cyfleoedd mae bandiau Cymraeg sydd yn canu yn Gymraeg yn ei gael dros y rhai sydd yn canu mewn Saesneg.
“Mae diffyg cefnogaeth gan BBC Cymru ac ITV Cymru tra mae cefnogaeth gan S4C felly mae band sydd yn canu yn Gymraeg yn cael mwy o gyfleoedd na rhai Saesneg. Nid oes rhaglen iddyn nhw berfformi arno. Byddai’n dda i gael hyn.
“Wrth gysidro faint o dalent gerddorol a’r ffaith fod darlledwyr yn ceisio gwneud pethau yn rhad, yna mae yn rhad. Fe ddylai fod mwy ohono,” meddai.
Y dyddiau hyn mae’r rhyngrwyd yn cael ei weld fel y lle i unrhyw un roi eu stwff eu hunain arno fel bod unrhyw un yn y byd yn gallu gwrando ar eu cerddoriaeth. Ond ydy hyn yn ddigon? Gofynnwyd i Iwan Standley os oedd yn meddwl fod y rhyngrwyd yn mynd i ddod yn hyd yn oed mwy pwysig fel lle i weld a chlywed cerddoriaeth.
“Dwi’n meddwl fod teledu cerddoriaeth yn gyffredinol ddim yn gweithio, fel Top Of The Pops. Mae’r un peth yn wir am S4C. Mae Bandit yn eithaf niche o raglen a Nodyn yr un peth. Mae angen rhaglen fwy cyffredinol mae pobl yn hoffi gwylio ond eu bod hefyd yn digwydd gweld bandiau arno.
“Ar y We mae yna bob math o gyfleoedd ond mae’n rhaid chwilio amdanynt. Rhaid bod yn ffan yn barod.”
Roedd Deian Ap Rhisiart, sef y rapiwr MC Saizmundo, yn y gynulleidfa a dywedodd ei fod yn cytuno gyda’r panel: “Mae cerddoriaeth yn gorfod dod i mewn i rywbeth yn naturiol, fel rhan o raglen cylchgrawn sydd yn cyrraedd cynulleidfa.”
Ond dywedodd Barry ei fod yn teimlo ei bod yn anodd plesio pawb gan mai un sianel yn unig ydyw.
Safon
Roedd Dafydd Iwan, canwr, gwleidydd a sefydlydd a rheolwr Sain, yn y gynulleidfa a dywedodd ei bod yn bwysig cofio fod S4C a Radio Cymru yn ceisio plesio pawb a bod hyn yn amhosib.
“Mae’n rhaid bod yn ofalus wrth roi cerddoriaeth ar y teledu yn rhad. Mae’n rhaid i’r sain fod yn iawn neu gall wneud niwed i’r artistiaid yma.”
Roedd pawb yn cytuno yn gyffredinol mai un o’r ffactorau mwyaf yn safon cerddoriaeth ar deledu Cymraeg oedd costau. Nid ydynt eisiau iddynt feimio gan fod hyn yn costio mwy ac mae cael nhw mewn ystafell fyw rhywun yn hytrach nag mewn stiwdio hefyd yn rhatach. Awgrymodd un o’r gynulleidfa i dorri costau drwy gael llai o gamerâu yn ffilmio darn yn hytrach na gadael i’r sain ddioddef a gofynnodd aelod arall o’r gynulleidfa Os nad yw’n werth ei wneud yn iawn ydy o’n werth ei wneud o gwbl? Ydy hyn yn gwneud niwed i’r bandiau?
Gofynnwyd ai'r broblem oedd nad oedd digon o fandiau ac artistiaid da ac os fydden nhw yno yna byddai mwy o gyfleoedd gan fod pobl eisiau eu gweld nhw ar y teledu.
“Mae llawer o gerddoriaeth ddiddorol yng Nghymru. Dwi ddim yn cael trafferth llenwi rhaglen tair awr,” meddai Adam. “Gosodais i’r dasg o lenwi rhaglen 3 awr gydag artistiaid doedd pobl ddim wedi clywed amdanynt o’r blaen a gofyn i bobl yrru eu stwff i mi. Cefais 250. Dwi’n meddwl roedd o’n rhaglen hyd yn oed gwell yr wythnos honno felly mae’r dalent allan yna.”
Cefnogodd Gethin hyn drwy ddweud nad oedd cynhyrchwyr Gofod erioed wedi cael problem yn darganfod bandiau Cymraeg. Ond roedd yn credu ei bod yn ymddangos fod y sîn miwsig iaith Gymraeg yn ddistaw ar y funud.
“5 mlynedd yn ôl roedd Bandit yn gyfres 12 i 16 rhaglen. Nawr mae’n 4. Roedd cerddoriaeth yn fwy bywiog bryd hynny. Ydy teledu yn cynnal y sîn neu’n adlewyrchu’r sîn? Yn edrych arno rŵan dwi’n meddwl efallai fod Bandit yn ei gynnal.”
Ond cytunwyd fod cyfleoedd yn llai fyth i fandiau Cymraeg sydd yn canu yn yr iaith Saesneg gyda dim cyfleoedd iddynt ers y rhaglenni BBC Juice yng nghanol yr 80au a The Slate yn y 90au.
“Dwi’n meddwl mai’r peth cynhyrfus ydy fod yna blant allan yna sydd yn gwneud cerddoriaeth anhygoel heb gefnogaeth y cyfryngau,” meddai Adam
Credai Gareth er bod y sîn yn teimlo yn ddistaw mae ffurf wahanol fel cerddoriaeth electroneg yn brysur dros ben.
Roedd Barry yn teimlo fod y dalent allan yna.
“Er ei fod yn farchnad wahanol roedd dros 100 wedi trio am Cân i Gymru eleni. Mae yna bobl allan yna yn creu. Dwi erioed wedi cael trafferth yn ffeindio bandiau i Golwg.”
Dim Cefnogaeth?
Roedd yna dipyn o bobl o labeli recordio yn bresennol yn y gynulleidfa a dywedodd un ohonynt eu bod nhw fel label yn llai tebygol o fuddsoddi mewn band ifanc gan fod y gefnogaeth ddim yn dod yn uniongyrchol gan S4C a Radio Cymru bellach.
Awgrymodd Gareth y dylai bandiau, artistiaid a labeli yrru pethau yn uniongyrchol i bobl.
“Dydy pobl ddim yn teimlo fod rhaid iddynt drafferthu nawr gyda phethau fel My Space, ond dim ond cynulleidfa fach o bobl mae’n cyrraedd. Mae’n hawdd rhoi pethau arno ond mae’n beryg fod pobl yn meddwl eu bod wedi gwneud eu gwaith a gallent eistedd ac ymlacio a disgwyl i’r cytundebau ddod.”
“Mae’n rhwystredig gwybod fod pethau allan yna a bod bandiau ddim yn hyrwyddo eu hunain. Dydy pobl ddim yn sylwi pa mor ‘desperate’ ydym ni weithiau!”
Dywedodd Adam fod pôl diweddar gan Radio Wales gyda 300-400 o bobl yn dangos fod radio yn parhau i fod yn bwysig iddynt a bod hyn ddim yn cyfateb i faint o gerddoriaeth sydd yn cael ei yrru iddynt.
“Dwi’n gwario cymaint o amser yn ceisio darganfod rhywbeth diddorol. Mae pobl yn meddwl fod ganddynt ffenestr siop (proffil My Space) ac maent yn mynd yn fodlonus. Maen nhw’n dweud ei bod yn anodd cael gig ond mae yna lot o gigs llwyddiannus allan yna. Mae pobl angen penderfynu peidio cwyno am bethau a mynd allan yna a gwneud o,” awgrymodd.
Gofynnodd Deian yn y gynulleidfa pa fath o fformat maen nhw’n ffafrio i yrru’r caneuon iddynt ond dywedodd Gareth fod hyn yn wahanol yn ddibynnol ar y rhaglenni, felly mae pobl angen cysylltu â’r rhaglen i ofyn pa fformat sydd yn well ganddynt. Gofynnodd Gareth hefyd pa mor hawdd oedd cysylltu’r cyfryngau pan mewn band?
Dywedodd Gethin, oedd ei hun yn chwarae drymiau i fandiau fel Genod Droog, Kentucky AFC a Yucatan, mai’r broblem oedd y trosiant staff.
“Mae’r staff yn newid drwy’r adeg felly dydy dy stwff di byth yn cael at y person iawn. Yn y diwedd doedden ni ddim yn trafferthu gyrru pethau i gwmnïau, dim ond i Boomerang ac Antena gan ein bod yn gwybod y byddan nhw yn fwy tebygol o gymryd diddordeb.”
Tynnodd Dafydd Iwan sylw at faint o ganeuon roedd cyfrifiaduron yn Radio Cymru yn gallu eu dal ac yn ystod rhaglen ceisiadau fod tua 6 o ganeuon ddim ar gael ar y cyfrifiadur i chwarae ymhob sioe.
“Golygai hyn fod rhai pethau byth yn cael eu clywed yn y cyfryngau. Ond tra mae S4C yna mae llwyfan i gerddoriaeth Cymraeg. Ond dydy cerddoriaeth iaith Saesneg Cymraeg ddim efo dim.
Dywedodd Gareth fod pethau ar y gweill i wella’r system yn y BBC. Parhaodd i ddweud fod y broblem efo’r rhyngrwyd ydy fod cynhyrchwyr a bandiau, a chynhyrchwyr a labeli, ddim mewn cysylltiad â'i gilydd.
“Mae gen ti fwy o gyfle i rywbeth gael ei chwarae os ydy bandiau a labeli yn mynd i’r drafferth o gysylltu,” meddai.
“Mae pobl yn gorfod meddwl beth mae’r cyfryngau eisiau. Bod o’n gweddu i’r fath yna o raglen. Mae pawb yn gwybod os ydy rhaglen yn berthnasol i fath nhw o gerddoriaeth felly nid ydynt yn gwastraffu amser yn gyrru pethau iddynt. Mae’r cyfryngau yn gwneud pethau yn llai personol.”
Dywedodd Adam fod Radio Wales yn cynnal grwpiau ffocws am beth sydd yn cael ei chwarae ar y radio fel eu bod yn cael y gynulleidfa fwyaf posib felly dydy pethau sydd ddim yn boblogaidd yn y grwpiau ffocws ddim yn cael ar y cyfrifiadur.
“Mae hyn yn culhau’r maes cerddoriaeth sydd yn cael ei chwarae. Mae llawer o bobl yn ceisio newid hyn ond yn anffodus fel hyn mae pethau’n gweithio ar y funud.”
Dywedodd aelod o’r gynulleidfa ei fod yn gwrando ar gerddoriaeth o nifer o wledydd gwahanol mewn bob math o ieithoedd a bod Cymru yn methu tric.
“Os wyt ti’n dweud rhywbeth newydd yna bydd pobl eisiau gwrando. Os wyt ti’n cystadlu yn erbyn yr un gerddoriaeth mae pobl yn ei wneud yn Saesneg yna byddet wedi dy drapio yng Nghymru am byth gan fod pobl yn gallu dewis ei glywed mewn iaith maent yn ei ddeall.”
Dywedodd Gareth ei fod yn haws i gerddoriaeth amgen gael ei chwarae ar Radio Wales a Radio Cymru i gymharu â bandiau canol y ffordd er roedd Adam yn anghytuno â hyn.
“Dydy cerddoriaeth amgen ddim yn cael ei chwarae yn ystod y dydd, mae mwy o gyfle yn y nos.”
Polisi Newydd
Roedd Rhys Mwyn, aelod o’r band pync Cymraeg Anrhefn, a rheolwr, CC, ymgynghoriad a A&R, hefyd yn y gynulleidfa.
“Rhaid i ni dderbyn beth ydy o. Mae’r BBC yn cael cyllid cyhoeddus, mae’n wasanaeth i’r cyhoedd, ddylai nhw ddim trio bod yn Radio 1. Gyda Radio 3 a Radio 4 mae eu pwrpas yn glir, ti’n gwybod beth ti’n cael a ni ddylai Radio Cymru a Radio Wales geisio bod yn fasnachol.”
Awgrymodd Rhys mai’r ffordd ymlaen oedd iddynt gael polisi cerddoriaeth sydd yn cefnogi chwarae bandiau Cymraeg ar yr orsaf.
Roedd eraill yn cwyno ei bod yn ymddangos fel os oedd record benodol yn cael ei chwarae unwaith yr wythnos honno ar Radio Cymru yna ni gai ei chwarae eto, a dywedodd Deian er ei fod yn gyrru stwff newydd iddynt maent yn parhau i chwarae'r stwff hen.
Esboniodd Gareth ei bod yn anodd cael polisi cerddoriaeth i Radio Cymru gan fod rhaid iddynt wneud yn sicr fod y gerddoriaeth yn addas ar gyfer y rhaglen a'u bod yn ceisio cael amrywiaeth dros yr orsaf. Ond mynnodd Rhys y dylai’r pwyslais fod ar y newydd a dim yr hen.
Amddiffynnodd Gareth hyn yn dweud bod y cynhyrchwyr yn ceisio creu sŵn ble mae’r cyfarwydd yn bwysig. Ei fod yn gerddoriaeth gyfarwydd mae pobl yn ei adnabod. Gofynnodd Rhys sut mae caneuon yn dod yn gyfarwydd os nad ydynt yn cael eu chwarae.
“Un o’r cwynion ydy fod y rhaglenni yn chwarae'r un pethau,” esboniodd Gareth.
“Os byddai’n bolisi i wneud yn siŵr fod mwy o amrywiaeth yna’r perygl ydy fod pobl yn llwytho pethau i’r cyfrifiadur sydd ddim yn deall cerddoriaeth Cymraeg.”
Dywedodd un aelod cynulleidfa os oeddent eisiau iddynt yrru pethau newydd iddynt yna roedd rhaid iddynt ei chwarae.
“Dwi’n gwybod ei fod yn dor calonus i fand sydd efo CD newydd allan pan mae’r radio yn dal i chwarae eu stwff hen,” meddai Gareth.
Meddyliodd Adam fod yr esiampl o 6 Music yn un da i bobl Cymru gymryd sylw ohono.
“Fe geisiwyd cael gwared ar 6 Music ond fe gafodd ei gadw am ei fod yn cael ei gyllido gan y drwydded ac roedd pobl yn protestio fod angen ei gadw. Mae rhaid iddynt fodloni’r bobl sydd yn talu’r drwydded. Felly os oes digon o bobl yn dweud y dylai ni chwarae fwy o gerddoriaeth Cymraeg yna mae’n rhaid iddynt wrando. Mae’r drwydded dan adolygiad drwy’r adeg.”
Cyngor
Daeth y drafodaeth i ben gydag aelodau’r panel yn rhoi awgrymiadau i fandiau Cymraeg.
Iwan Standley: “Mae’n rhaid cofio nad yw pobl ifanc yn troi at y teledu a radio am gerddoriaeth ddim mwy, maent yn ei gael ar y rhyngrwyd.”
Cytunodd Rhys Mwyn a dywedodd gan fod patrymau gwylio wedi newid yna rydym angen meddwl am sut mae cynnwys yn cael ei ddarparu gan S4C ar y we, gyda phorth fel bod pobl yn gallu gwylio fel maen nhw eisiau.”
Dywedodd aelod arall o’r gynulleidfa fod You Tube yn offeryn pwysig wrth i bobl mewnosod fideos ar eu tudalennau Facebook ac ati. Dylai S4C gyfrannu at hyn meddai.
“Efallai dylai nhw fod yn edrych i mewn i hyn a chydnabod fod angen hyn i gyrraedd cynulleidfa. Ond mae’n rhaid gwneud hyn yn gywir.”
Adam Walton: “Mae cynulleidfa radio mewn gwirionedd wedi codi yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n cynghori cerddorion i beidio rhoi gorau iddi. Mae ateb allan yna os wyt ti’n barod i fynd a chwilio amdano. Os nad wyt ti’n llwyddo yna efallai dy fod yn trio’r person anghywir. Ffonia i ffeindio allan pwy ydy’r person cywir a gyrra dy gerddoriaeth yn syth atynt a dilyn hyn i fyny i atgoffa nhw,”
Gethin Evans: “Os ti ddim yn licio beth mae Radio Cymru yn ei wneud yna gwna raglen dy hun ar You Tube. Os ti ddim yn licio’r gwyliau neu’r gigs sydd yn cael eu cynnal yna rho un ar dy hun.”
Gareth Iwan: “Gwna gysylltiadau personol.”
Oes gen ti farn ar sut mae’r cyfryngau Cymraeg yn cefnogi bandiau ac artistiaid yng Nghymru? Yna gad sylwadau isod.
Linciau
Tudalen Wybodaeth Cerddoriaeth
DELWEDD: schmilblick







