Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Gwersi ABaCh

Posted by IestMôn from Anglesey - Published on 01/08/2010 at 14:26
0 comments » - Tagged as Education, Health, People, Yn Gymraeg

  • Photo 1
  • Photo 2

Ar ôl cyfarfod ar aelodau cynulliad yn y Senedd lawr yng Nghaerdydd hefo 'Draig Ffynci' gefais y siawns i ofyn cwestiynau a thrafod testunau hefo'r is-weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.

Wnaeth llawer o destunau godi yn y cyfarfod yn cynnwys LCA ('EMA') ag y gwersi ABaCh (Addysg Bersonol a Chymdeithasol/'PSE/PSHE Lessons'). Ar ôl trafod y materion a oedd yn codi ynglŷn ar wersi ABaCh ddwedodd un o’r grŵp ei fod ei hysgol hi yn gorfodi plant i gymryd arholiad ar ddiwedd y cwrs fel ei bod yn galluogi nhw i dderbyn cymhwyster/tystysgrif TGAU am y gwaith mae hi yn ei wneud yn y gwersi hyn sydd yn arbennig. Meddyliodd pawb fod y ffaith fod y disgyblion yn yr ysgol yna yn cael cymhwyster allan o’r gwersi a phawb arall yn cael dim byd i gydnabod y gwaith ac rydym yn gwneud yn y gwersi yn annheg.

Roedd yr hogan yma yn trafod pethau a oedd yn berthnasol iddi hi e.e. trafodwyd yn y gwersi am Ddraig Ffynci ar Senedd ayyb ag yn ogystal ag Addysg rhyw a chyffuriau. Yn y gwersi ABaCh dwi yn ei dderbyn rydym yn debygol iawn o gael athro/athrawes sydd yn darllen o ffeil a hefo dim cymhwyster yn y testun, mae hyn yn wneud imi deimlo fel bod yr athro/athrawes yn dallt dim am y testun. Mae hyn yn dilyn i ddisgyblion peidio gofyn cwestiynau oherwydd y diffyg hyder yn yr athro/athrawes.

I gloi rwy’n credu dylai rheolau gael ei wneud ynglŷn â'r gwersi ABaCh fel bod pob pobl ifanc sydd yn derbyn y gwersi yn cael siawns cyfartal a bod yna disgwyliadau uchel o’r gwersi, oherwydd ar ddiwedd y dydd y sgiliau rydym yn dysgu o’r gwersi yma syn agor llwybrau ein bywyd.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.