Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Gwersyll Girlguiding

Posted by Rainbow_Drop_5 from Caerphilly - Published on 14/06/2010 at 14:54
0 comments » - Tagged as Environment, Festivals, People, School Holiday Activities, Volunteering

English version

Rydw i’n adrodd o’r Aruthrol Cant Yng Nghymru: Gwersyll Galw Heibio Girlduiding Cymru.

Rydym yn gwersyllu ym maes y Sioe Frenhinol, gyda genethod yn mynychu o bob rhan o Gymru.

Mae dros 600 o enethod yn cymryd rhan, ac rydym yn aros am ddwy noson a thri diwrnod. Rydym wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau fel crefftau, antur, a sialensiau gwahanol.

Rydym hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithdai taekwondo,  ffensio, saethyddiaeth,  drysfa meddwl, trin adar a ffuredau a llawer mwy. Fe fwynheais y saethyddiaeth fwyaf.

Yn y dosbarth crefft fe wnaethom gi o lanhawyr pibell, mwclis a hwyaid,  a llawer mwy. Ar y nos Wener cawsom dân gwersyll heb y tân, ble buom yn canu nifer o ganeuon er nad oeddem yn gwybod nifer ohonynt.

Dwi’n hoffi bod yn y Girguides yn fawr iawn gan ei fod o’n llawer o hwyl, a dwi wrth fy modd pan rydym yn cael bathodynnau ac yn trio pethau gwahanol.

Rydym hefyd yn cael gwneud lot o ffrindiau newydd o wahanol lefydd.

LINCIAU

Girguiding Cymru

Girlguiding Cymru ar Facebook

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.