Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Gwirfoddoli Gyda Gwasanaeth Ieuenctid Pen-Y-Bont Ar Ogwr

Posted by lizzie_scott from Bridgend - Published on 30/01/2010 at 13:31
0 comments » - Tagged as Education, People, Work & Training, Volunteering

  • Gwirfoddoli

English Version

Ar hyn o bryd rwy’n wirfoddolwr i Wasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr a siop gwybodaeth ieuenctid o’r enw Just @sk a leolir yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Rwyf wedi bod yn wirfoddolwr nawr am 18 mis a chyn dod yn wirfoddolwr roeddwn yn rhoi gwybodaeth i gyfoedion.

Roedd hyn yn golygu cymryd rhan mewn cwrs OCN (Rhwydwaith y Coleg Agored) Lefel 2 mewn Sgiliau Helpu Cyfoedion. Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn roedd yn rhaid i mi roi'r hyn yr oeddwn wedi ei ddysgu ar waith.

Rôl cyfarwyddwr cyfoedion yw cyfarwyddo pobl ifanc at yr wybodaeth berthnasol. Mae hyn weithiau yn cynnwys eu cyfarwyddo yma at wefan CLIC.

Rydw i wedi mwynhau bod yn wirfoddolwr ac rwy’n bwriadu mynd â hyn ymhellach trwy ychwanegu at fy addysg yn y brifysgol naill ai yng Nghasnewydd neu UWIC lle byddaf yn dechrau ar  Gwrs Addysg Ieuenctid a Chymuned.

Rwy’n mwynhau fy rôl fel gwirfoddolwr oherwydd rwy’n mwynhau gweithio gyda phobl ifanc ac mae’n bwysig bod y gwaith hwn yn cael ei wneud gan rywun sy’n ifanc ei hun.

Credaf  y dylid rhoi cyfleoedd i bobl ifanc na allant o anghenraid eu cael gartref.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.