Gwirfoddoli Dramor
Hoffet ti gael y profiad o wirfoddoli dramor?
Mae Platform 2 yn rhedeg cynllun lle gall bobl ifanc 18 i 25 oed, sydd ddim fel arfer yn cael cyfle i deithio dramor, gael eu hariannu gan yr Adran Datblygiad Rhyngwladol i fynd am 10 wythnos.
Maent yn edrych am bobl ifanc o Gymru i gymryd rhan yn y cynllun ac yn eich annog i gysylltu â nhw am wybodaeth bellach. Efallai byddet yn teithio i Ghana, Kenya, De Affrica, Peru, India neu Nepal.
Gall y gwaith gwirfoddol gynnwys gweithio gyda thimau lleol ar brosiectau fel adeiladu ysgolion, cyfleusterau toiled a neuaddau cymunedol; adnewyddu adeiladau; datblygu gerddi, llefydd chwarae a meysydd chwaraeon; edrych ar ôl a dysgu plant mewn amddifatai (orphanages); helpu gyda chanolfannau ecolegol ac yn dysgu grwpiau o blant ysgolion cymunedol am amddiffyn yr amgylchedd.
Byddet yn teithio mewn grwpiau o 12 i 16 o bobl ac yn aros mewn cartrefi teuluoedd lleol neu mewn dortur.
Maent yn dy annog i rannu dy brofiadau pan fyddi di'n cyrraedd yn ôl adref mewn ffordd sydd yn gweddu ti, byddai’n ysgrifennu, barddoni, cerddoriaeth, arlunio, ffotograffiaeth, dawns neu ffordd arall.
Ymwela â www.myplatform2.com am wybodaeth bellach neu i wneud ymgais ar lein. Mae’r cynllun yn rhedeg tan ddiwedd 2010.








