Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Gwleidyddiaeth A Phobl Ifanc

Posted by Sam (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 13/10/2011 at 13:42
0 comments » - Tagged as Culture, Education, People, Topical

English version

Neithiwr bu cwpl o Sproutwyr i lawr i adeilad hyfryd y Pierhead am ddigwyddiad o'r enw Pobl Ifanc a Gwleidyddiaeth Yng Nghymru. Dyma le bu ychydig o bobl ifanc yn gofyn bob math  o gwestiynau i banel o bedwar gwleidydd (Christine Chapman AC, Bethan Jenkins AC, David Melding AC, Eluned Parrott AC) ac Aled Jones o CFfI Cymru ac yn cael ei gyfryngu gan Nia Medi o Radio Cymru.

Roedd yn eithaf da, gyda chwestiynau gwych gan bobl ifanc, y ffordd roedd popeth wedi poethi tipyn erbyn diwedd y sesiwn, ac yn enwedig y sgriniau Twitter enfawr ar y waliau (roedd popeth efo'r hashtag #PVYP2011 yn cael ei gyhoeddi yn fyw,  gyda llawer o chwerthin am y peth hefyd!).

Ysgrifennais lawer o nodiadau prin yn ddarllenadwy, ond mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (oedd yn trefnu'r digwyddiad gyda'r Gymdeithas Hansard) wedi, ac yn parhau i lwytho fideos o'r digwyddiad ar YouTube felly yn hytrach na darllen fy marn i arno, pam ddim cael gwybod yn syth o'r felin.

Ond cyn i ti fynd, edrycha ar y fideo yma o Stormer007 yn siarad gydag Aled a Bethan am y digwyddiad.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.