Gwna Google Yn Well?
English version
Y peth am y Rhyngrwyd ydy mai gwybodaeth ydy'r brenin.
Bod hyn yn derbyn gwybodaeth am dy aseiniad nesaf neu'n rhoi gwybodaeth wrth gofrestru i wefannau.
Ond, mae'n ymddangos fod un o gewri'r rhyngrwyd yn barod i dalu ti am dy wybodaeth.
Ia, dyna ti, bydd Google yn rhoi $5 i ti bob tri mis os wyt ti'n gadael iddynt fonitro beth ti'n wneud ar y rhyngrwyd.
Pam felly? Wel, maen nhw'n dweud fod nhw eisiau "dysgu mwy am sut mae pobl bob dydd yn defnyddio'r rhyngrwyd".
Mae'r prosiect, gelwir yn Screenwise, yn bwriadu cynnig talebau Amazon i gael gwybod sut wyt ti'n defnyddio'r rhyngrwyd, a bydd yn gweithio trwy ehangiad ar borwr Google ei hun, Chrome. Wedi dweud hynny, dydy Amazon ddim yn noddi'r hyrwyddiad.
Er nad yw wedi'i lansio yn swyddogol, mae cofrestru wedi agor i'r rhai sydd yn barod i ildio'u preifatrwydd i gael taliad.
Byddet yn derbyn $5 wrth arwyddo i'r gwasanaeth, a $5 pellach ar ôl tair mis o'i ddefnyddio, hyd at fwyafrif o $25, sydd yn golygu fod y prosiect hwn yn bwriadu rhedeg am o leiaf blwyddyn.
Beth wyt ti'n feddwl o hyn? Ydy hyn yn ffordd dda iawn i Google i ddatblygu mewn ffordd sydd yn canoli'r defnyddiwr yn hytrach na'r cyfranddaliwr?
Neu ydy hyn yn ffordd i un o fawrion y rhyngrwyd ennill mwy o arian gydag ychydig o ymdrech?







