Gwobr Gŵyl Sir Benfro
Mae’r ŵyl gerdd a drefnir gan ac i bobl ifanc yn Sir Benfro wedi ennill prif wobr.
Enillodd Gŵyl Ieuenctid y De Orllewin y wobr am y prosiect mynegiadol gorau yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru ym Mawrth 2010.
Mae’r digwyddiad blynyddol yn gyfle gwych i bobl ifanc berfformio a dathlu eu talentau.
Canmolodd y Cynghorydd Huw George, Aelod Cabinet dros Blant a Phobl Ifanc y bobl ifanc.
“Mae’r wobr hon yn destament i waith caled y bobl ifanc ac i weithwyr ieuenctid o Ganolfan Ieuenctid y Garej, sydd wedi helpu i wneud y digwyddiad hwn y fath lwyddiant,” meddai. “Mae codi arian bob blwyddyn i’r ŵyl yn her ond mae’r canlyniad yn wirioneddol werth yr ymdrech”.
Mae’r ŵyl yn y Llwyn Helyg wedi bod mor boblogaidd dros y pedair blynedd ddiwethaf, gan ddenu dros 40 o fandiau a thua 1000 o bobl ac mae’n cynnwys dau brif lwyfan, pabell ddawns, gweithdai, pabell gweithgareddau a chaffi.
Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, a drefnir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn rhoi cyfle i weithwyr ieuenctid a’u prosiectau ar draws y wlad ddathlu eu cyflawniadau.
I gael gwybodaeth am Ŵyl Ieuenctid y De Orllewin eleni, cadwch olwg ar www.southwestyouthfest.co.uk. I gysylltu, e-bostiwch admin@southwestyouthfest.co.uk neu galwch 01437 769523
Mae’r delweddau yn eiddo iwww.southwestyouthfest.co.uk









