Gwobrau Philip Lawrence
Helo. Fy enw i ydy Jessica a fi ydy llysgennad Gwobrau Philip Lawrence yng Nghymru ynghyd â Ben.
Rydym yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi fod ein gwobrau ar agor ar gyfer enwebiadau. Fel rhan o'n swydd fel llysgennad, ein gwaith ydy i recriwtio cymaint o enwebiadau posib o Gymru.
Cafodd y cynllun ei sefydlu yn 1997 er cof y prifathro, Philip Lawrence gafodd ei lofruddio tu allan i'w ysgol, wrth geisio amddiffyn ei ddisgyblion rhag cael eu hymosod yn 1995.
Roedd Philip Lawrence yn credu fod "Pob person ifanc yn gallu bod yn fawreddog," a dyma ethos y gwobrau.
Mae'r Gwobrau Philip Lawrence efo rhwydwaith (PLAnet) o bobl ifanc sydd yn helpu rhedeg y gwobrau. Mae'r bobl ifanc yma yn cyn enillwyr y gwobrau. Mae'r rhwydwaith yn cael ei wneud i fyny o'r Gymrodoriaeth, Y Brif Gymrodoriaeth a Llysgennad pob rhanbarth. Mae'r rhwydwaith PLA o bobl ifanc yn rhedeg y seremoni gwobrwyo, beirniadu'r enwebiadau ac yn gyrru'r gwobrau.
Beth mae'r grŵp ieuenctid yn ei gael os ydynt yn ennill?
-Bydd grwpiau sydd yn ennill yn derbyn gwahoddiad i'r seremoni wobrwyo gyfareddol.
-Adnabyddiaeth genedlaethol a lleol am eu gwaith gwych a'u llwyddiant.
-Byddent yn cael eu hadnabod fel arweinwyr ifanc.
-Cyfle i fod yn rhan o lysgennad PLA a chymryd rhan mewn amryw weithgaredd cyffrous gan gynnwys hyfforddiant a phreswylia.
Beth mae'r beirniaid yn chwilio amdano?
-Pobl ifanc yn gwella eu bywydau a bywydau eraill.
-Pobl ifanc yn arwain ac yn cael effaith.
-Prosiectau yn gwneud cyfraniad cynaliadwy i'r gymuned.
-Prosiectau yn gwneud cysylltiadau cryf rhwng cenedlaethau.
-Prosiectau yn helpu hyrwyddo dinasyddiaeth weithgar, lleihau trais neu ddiogelwch cymunedol.
-Prosiectau yn hyrwyddo parch a dealltwriaeth o ffydd, diwylliant a chymunedau.
Bydd hyd at 30 o'r rhai sydd yn mynd i'r rownd derfynol ranbarthol yn cael eu cyhoeddi fis Tachwedd a gwobrau rhanbarthol fis Rhagfyr – Ionawr, gyda hyd at ddeg enillydd cenedlaethol yn cael eu cyhoeddi yn ein seremoni gwobrwyo yn fuan yn 2012.
Os ydych chi'n ymwybodol o unrhyw brosiectau ieuenctid sydd yn gweddu meini prawf y gwobrau yna plîs enwebwch nhw ar-lein.
Os oes angen awgrymiadau neu arweiniad efo llenwi'r ffurflen plîs cysylltwch â 020 78407222.
Gobeithio clywed yn ôl gennych yn fuan! Pob lwc!
Jessica a Ben
Enwebiadau PLAnet 2011
www.philiplawrenceawards.net







