Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Hoffet Ti Wirfoddoli

Posted by loCLIC from National - Published on 13/10/2009 at 13:22
0 comments » - Tagged as Volunteering

  • gwirvol

English version

Cynhaliwyd lansiad swyddogol GwirVol, cynllun a fwriadwyd i gynyddu nifer y bobl ifanc sy’n cymryd rhan mewn gwirfoddoli yng Nghymru.

Mae GwirVol yn gynllun sy’n cynnwys partneriaeth o 20 o sefydliadau o’r sectorau gwirfoddol, cymunedol, cyhoeddus a phreifat yng Nghymru.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o wella dy CV, ehangu dy ddewisiadau o ran gyrfa, dysgu sgiliau newydd, cyfarfod pobl newydd a hybu dy hunanhyder.

Mae GwirVol yn anelu at ei gwneud yn haws i ti wirfoddoli drwy:

- gynnig cyfleoedd i hyfforddi a gwirfoddoli - defnyddio cynghorwyr Gwirfoddoli gan Ieuenctid ledled Cymru - cynyddu ystod y cyfleoedd i wirfoddoli i gynnwys pobl ifanc sy’n profi rhwystrau

Wyt ti’n awyddus i roi cynnig ar wirfoddoli? Ewch i GwirVol i gael mwy o wybodaeth.

Gwybodaeth ar wirfoddoli.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.