iPad, Cynnig Dau…
Cyfeirir 2011 fel blwyddyn y dabled.
Ers rhyddhad yr Apple iPad llynedd, mae cystadleuwyr Apple yn ymladd yn ôl eleni gyda channoedd o dabledi newydd yn gorlifo’r farchnad.
Dyw Apple ddim am roi gorau i’r frwydr yn hawdd…
Ers cyn y Nadolig, rydym wedi gludo i si'r iPad 2. Bryd hynny dim ond breuddwyd oedd ac nid oedd yr ail genhedlaeth o’r dabled anhygoel ar ddigwydd. Nawr, mae’r si wedi dod yn gryfach a rhai ohonynt yn fwy na chelwyddau ‘geeks’ technoleg bellach.
Dwi’n dyfalu dy fod di eisiau gwybod manylion y dabled rywiol yma? Do, fe alwais o’n rhywiol.
Yn ôl yn Rhagfyr cynnar, roedd bron pob ffan Apple yn glyfeirio pan gafodd delwedd o gês yr iPad 2 ei ddatgelu gan y gwneuthurwyr cyfwisgoedd Tsieinëeg Shenzhen MacTop Electronics yn dangos agorfa ar gyfer camera sy’n wynebu i’r cefn, yn debyg i’r un gwelir ar yr iPhone 4. Cafodd y delweddau hyn eu tynnu yn fwy sydyn na ellir dweud Apple.
Dwi’n meddwl ei bod hi bron yn sicr bydd camera sy’n galluogi Facetime o’r blaen ac yn wynebu i’r cefn.
Yn fis Ionawr yn ôl sôn roedd rhai wedi gweld brasfodel o’r iPad 2 yn y digwyddiad Consumer Electronics Show (CES). Arweiniodd hyn at fideo yn cael ei lwytho o’r brasfodel oedd yn dangos y ddau gamera.
Si arall hefyd ydy y bydd porth USB a cherdyn SD ond gyda Apple yn bod yn… wel, Apple, dwi ddim yn gweld hyn yn digwydd.
Mae llawer mwy o fanylion, i gyd yn si wrth gwrs, felly nid yw’r un wedi cael ei gadarnhau eto. Mae si bydd sgrin ddi-staen, fideo HD, geirosgop, dim botwm cartref ac o bosib arddangosiad retina. Mae yna bosibilrwydd mawr o rai o’r rhain ddigwydd ond mae rhai yn obeithion a breuddwydion.
Mae’r iPad am fod yn fwy main, mwy fel MacBook, mwy o gof a phrosesydd mwy sydyn.
NI FYDD YN LLAI NA 9.7 MODFEDD. Sori am y Caps Lock ond mae angen hynny. Mae pobl wedi bod yn rhoi delweddau yn feddyliau rhai pobl fod Apple eisiau curo eu cystadleuwyr drwy gael sgrin saith modfedd. Mae Steve Jobs wedi amlygu na fydd hyn yn digwydd!
Bydd y darn rhywiol o beirianneg yma yn dod yn realiti. Nid yw’n freuddwyd bellach. Mae mor agos ag wythnos nesaf…
Mae Apple wedyn ymestyn gwahoddiad i’r cyfryngau fynychu digwyddiad dydd Mercher 2 Mawrth.
Wedi’i atodi i’r gwahoddiad oedd delwedd o’r eicon iCal (fersiwn Apple o galendr) ac mae’r gornel yn pilio yn ôl i ddangos ymyl beth sy’n ymddangos fel iPad. Fel sonnir cynt, mae 2011yn cael ei adnabod fel blwyddyn y dabled ac ar waelod y ddelwedd mae’n dweud ‘Dewch i weld blwyddyn beth fydd 2011’.
Felly nid oes amheuaeth fod y digwyddiad yn bendant yn ymwneud â’r cyhoeddiad o’r iPad2.
Os wyt ti’n meddwl prynu iPad cenhedlaeth un, STOPIA! Disgwylia am yr iPad 2, dim ond rownd y gornel mae o! Bydd yr iPad 2 o gwmpas yr un pris â’r iPad cynt neu hyd yn oed rhatach.
Cawn ddarganfod fory, dydd Mercher 2 Mawrth. Sylwa ar y dyddiad? 2 Mawrth? 2il? iPad2? Ia?







