Llais Disgyblion Cymru
Mae Llais Disgyblion Cymru, Prosiect Cyfranogiad Disgyblion Llywodraeth Cynulliad Cymru bellach wedi disodli gwefan Cynghorau Ysgolion Cymru a lansiwyd yn 2006.
Ariannwyd y wefan gan Lywodraeth Cynulliad Cymru gyda chymorth gan ‘Cyrraedd y Nod’, Cronfa Gymdeithasol Ewrop, a gall plant, pobl ifanc a staff ddefnyddio’r wefan i bostio sylwadau, gofyn cwestiynau a rhannu gwybodaeth am sut roeddent yn cymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt mewn ysgolion ar draws Cymru.
Drwy amrywiaeth o ddeunyddiau hyfforddi, astudiaethau achos, gemau hwyl ac adnoddau sydd ar gael ar y safle, bydd pobl ifanc yn gallu deall beth yw cyfranogiad disgyblion, pam ei fod yn bwysig a sut y gall pobl ifanc ac oedolion weithio gyda’i gilydd i wneud gwahaniaeth i gymuned eu hysgol.
Ar ôl derbyn adborth gan bobl ifanc a swyddogion proffesiynol drwy ymgynghoriad a wnaed yn 2008, mae’r wefan ar ei newydd wedd bellach yn:
• Fwy rhyngweithiol gyda fforymau, ystafelloedd sgwrsio a thudalennau aelodau
• Mwy lliwgar a mwy o hwyl
• Glir ac wedi ei hadeiladu gyda llywio hawdd ei ddefnyddio
• Wedi ei theilwrio i wahanol oed
• Wedi lleihau o ran ei chynnwys – ond yn canolbwyntio ar agwedd ysgol gyfan at gyfranogi – nid dim ond cynghorau ysgol
Ceir manylion cyswllt defnyddiol hefyd i bobl a all gefnogi’r bobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol.
Cliciwch yma i weld y safle neu os dymunwch roi gwybod i ni beth mae eich ysgol yn ei wneud i sicrhau y gall pob disgybl chwarae rôl actif yn y gwaith o lunio penderfyniadau, ebostiwch ni yn: CangenHawliauaHawliadau@Cymru.gsi.gov.uk






