Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Llinell Gymorth Meic Yn Lansio

Posted by CLICryan from National - Published on 14/05/2010 at 12:53
0 comments » - Tagged as Art, Climate, Comedy, Creative Writing, Culture, Dance, Education, Environment, Fashion, Festivals, Food & Drink, Health, History, Movies, Music, People, School Holiday Activities, Stage, Sport & Leisure, Technology, Topical, Travel, Work & Training, Volunteering, Yn Gymraeg

English version.

Yn cael ei lansio heddiw, Meic ydy’r llinell gymorth newydd i blant a phobl ifanc yng Nghymru gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae Meic, sydd yn fyr am feicroffon, yn llinell gymorth gyfrinachol ac am ddim sydd yn gallu helpu gyda bob math o faterion gan gynnwys problemau efo teulu/ffrindiau, materion tai,  bwlio, pryderon iechyd a gwaith, lle i fynd am help yn eich ardal chi neu fel lle i gael lleisio pryderon.

Gall y llinell cymorth helpu cael eich safbwynt ar draws i eraill.

Dywedodd Gavin Thomas, sydd yn cydlynu’r prosiect, ar wefan Newyddion BBC Cymru:
“Mae yna blant a phobl ifanc yng Nghymru sydd ddim yn gallu cael eu clywed. Rydym yn gweithio mewn tandem efo gwasanaethau fel Childline, a Meic fydd y porth yno – yr un pwynt cyswllt i bobl ifanc.”

Mae’r llinellau ar agor o hanner dydd tan 8yh, saith diwrnod yr wythnos. Mae’r gwasanaeth ar gael yng Nghymraeg neu’n Saesneg ar y ffôn, e-bost, neges testun neu negeseua sydyn (IM).

Mae’r llinell gymorth i rai 0 – 25 oed, am ddim ac yn gyfrinachol. Gallwch gysylltu yn y ffyrdd yma:

Ffôn: 080880 23456

Testun: 84001

IM/gwe: www.meiccymru.org

E-bost: help@meiccymru.org

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.