Mae Blockbusters Angen Ti
Amser i ddysgu, cyd CLICwyr wrth i mi roi gwers hanes byr i ti.
Yn y ddegawd oedd yn cael ei hadnabod hefyd fel "yr 80au", roedd rhaglen deledu. Wel, roedd llawer o raglenni teledu, ond dim ond un sydd yn bwnc trafod yr erthygl yma.
Y sioe rydym yn sôn amdano? Blockbusters.
Yn y sioe hon o'r fath cwis, mae'r cystadleuwyr yn ateb cwestiynau i gwblhau llwybr ar draws neu i lawr bwrdd gem o hecsagonau.
Yn anffodus, cafodd ei ddarlledu am y tro olaf fis Mawrth 2001. Ac os mae'r frawddeg ddiwethaf yna yn gwneud i ti deimlo'n siomedig, yna na phoener, gan fydd Blockbusters yn dychwelyd yn 2012 ar Sky Challenge.
Pwy sydd yn gyfrifol? Talback Thames. A dyfala beth? Nid hysbysiad manwl i adael i ti wybod am ailwampio'r sioe ydy hon. Na, mae Talkback Thames, y Cwmni Cynhyrchu Annibynnol Gorau yn 2011, yn chwilio am bobl i gymryd rhan yn y sioe.
Felly, wyt ti erioed wedi bod eisiau cwblhau 'gold run'? Wyt ti'n meddwl gallet ti ddioddef pwysau'r 'hot spot'?
Wel, os felly, a ti yn 18 oed neu'n h?n, pam ddim gwneud cais?
Ddim yn hyderus mewn mynd ar ben dy hun? Na phoener, gallet wneud cais gyda ffrind neu berthynas yn y sioe sydd yn profi neu yn gwrthbrofi fod dau ben yn well nag un.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwneud cais, gyrra e-bost i blockbusters@talkbackthames.tv neu galwa Lauren ar 0207 691 6238.
O, ac os wyt ti'n gwneud cais ac yn llwyddiannus, pam ddim ysgrifennu am y profiad i CLIC?
Cer amdani, ti'n gwybod dy fod eisiau.







