Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Mae’r Llywodraeth Wedi Ymadael  Phobl Ifanc

Posted by dirty from Cardiff - Published on 27/10/2010 at 14:24
0 comments » - Tagged as Education, Topical

  • Clegg

English version

Mae ffioedd dysgu yn codi, ac rydym i gyd yn cwyno. Ond pam fod myfyrwyr yn cwyno?

Fe bleidleisiodd nifer am y Democratiaid Rhyddfrydol am y ffaith eu bod am gael gwared ar y ffioedd prifysgol mae nifer o bobl yn ei dalu, heb sôn am yr addewid o gynrychiolaeth gyfrannol yn y llywodraeth. Ymddangosai fel mai'r sgandal ffioedd dysgu fydd y peth i wahanu’r  Democratiaid Rhyddfrydol ers iddynt ffurfio eu clymblaid gyda’r blaid Geidwadol.

Cyfrifiad Cable

Yn y nawdegau roedd Llafur yn erfyn ar bawb i fynd i’r brifysgol er mwyn cynyddu mudoledd cymdeithasol. Roedd Llafur fel llywodraeth chwith o’r canol yn gyffredinol (a dwi’n defnyddio’r term hwn yn rhydd iawn) wedi gweld y trap tlodi a diweithdra roedd diffyg addysg yn ei olygu ac felly yn gwneud popeth gallent i leihau hyn a darparu dyfodol gwell. Yr unig berson i ddagnos ei gefnogaeth tuag at y ffioedd dysgu ydy Vince Cable; mae Aelodau Seneddol y Democratiaid Rhyddfrydol mewn gwrthryfel llwyr. Er ymosodiad miniog Vince Cable ar gyfalafiaeth a’i ddrygioni sydd yn amlwg wedi arwain ni i helpu'r banciau er mwyn osgoi methiant ariannol cyflawn, mae’n ymddangos fod Cable eisiau gweld cyfalafiaeth yn cael ei integreiddio i mewn i gyfundrefn Prifysgolion Prydeinig.

A sut? Bydd y cap newydd yn golygu fod prifysgolion yn cael cynyddu ffioedd i £7500 y flwyddyn. I helpu’r diffyg ariannol, pam ddim casglu'r biliynau sydd yn cael ei golli mewn treth drwy'r defnydd o lochesi gan gorfforaethau? Y dreth sydd yn perthyn i ni.

Gwarth Oxbridge

Dyma sefyllfa ddamcaniaethol. Ti’n gwneud cais am Oxbridge, ti’n cael y graddau ar ddiwrnod canlyniadau i fynd i Oxbridge; llongyfarchiadau! Ond, ti’n dod o gefndir dosbarth gweithiol. Yn y chweched dosbarth/coleg roeddet yn cael hawlio'r cyfanswm o £30 yr wythnos gan fod dy rieni yn ennill ychydig o dan y trothwy. Mae’r un person o gefndir mwy manteisiol yn cael yr un graddau a ti… ond wyt ti’n gallu talu’r saith mil a mwy'r flwyddyn mewn ffioedd dysgu, heb sôn am y costau o fyw a deunyddiau coleg. Hyd yn oed os wyt ti’n gorffen yn y brifysgol ac yn cael swydd dda o £21mil+ bydd rhaid i ti dalu o gwmpas £40,000 yn ôl yn gyfan gwbl.

Ac nid yn Oxbridge yn unig fydd rhaid talu costau fel hyn gan fod prifysgolion Grŵp Russell eisiau’r cap o saith mil gael ei ddileu yn gyfan gwbl fel bod modd codi faint bynnag yr hoffent.

Pwy fydd yn gallu fforddio mynd i’r brifysgol os nad all eu rhieni helpu nhw? Pwy fydd yn gallu fforddio'r fath ddyled yn yr hinsawdd bresennol? Y rhai sydd yn fwy manteisiol, dyna pwy.

Ariannu Ffiwdaliaeth

Mae polisïau Lord Browne a Vince Cable yn gwbl groes i fudoledd cymdeithasol, gan y byddai'n annog y rhai o gefndir llai manteisiol i beidio mynd i'r brifysgol. Byddai hyn yn lledaenu’r bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd, yn cryfhau'r system dosbarth sydd yn gangen o’r system ffiwdal. Yr un mae Prydain wedi bod yn ceisio cael gwared ohono am flynyddoedd. Bydd y cyfoethog yn cael yr addysg i reoli, a’r tlawd yn dychwelyd yn ôl i’w cyflwr traddodiadol fel y dosbarth gweithiol.

Mae troseddu a diweithdra wedi’u cysylltu yn uniongyrchol i ddiffyg addysg; ydy’r tlawd yn cael eu cosbi am feiddio anelu rhy uchel, i fynd i brifysgol? Rhag ein cywilydd am drio gwella ein hunain. Rydym yn cael ein beirniadu am ddewis addysg uwch. Mae cyfalafiaeth yn gorchymyn fod y rhai efo’r arian mawr yn cael mwy o gyfleoedd: pam fod hyn yn cael ei ysgrifennu i mewn i’r system addysg?

Os ydy miliwn o rai 18-24 oed yn ddi-waith ar hyn o bryd, sut fydd y ffigwr yma yn codi pan fydd myfyrwyr ddim yn gallu fforddio mynd i brifysgol? Faint o gannoedd, neu filoedd neu filiynau fedrwn ni ddisgwyl?

Mae toriadau yn hanfodol gan fod “ein cenhedlaeth wedi gwneud smonach” mynnai Nick Clegg; felly dy blant di sydd yn gorfod dioddef? Rydym yn talu eu dyledion nhw yn barod. Yng Nghymru rydym yn cael llai o arian am bob pen nag Lloegr ac mae disgwyliad bywyd yn is yn barod yng Nghymru. Rydym wedi etifeddu cynhesu byd-eang gan ein rhieni, poblogaeth enfawr sydd yn heneiddio a nawr mae gennym y Ceidwadwyr mewn grym?

Toriadau Ceidwadol

Wedi'r cwbl, y blaid Geidwadol ydynt. Ti’n gwybod, yr un gaeodd y pyllau glo, blymiodd Cymru ddiwydiannol i mewn i dlodi a gwerthu’r rheilffyrdd. Gyda’r toriadau gwariant yn taro trafnidiaeth, byddwn yn talu mwy am wasanaethau trên efo gwasanaeth yn dirywio. Gwneud y dŵr, trenau a nawr addysg eu plant yn breifat. Pam mai'n cenhedlaeth ni sy'n dioddef, ein cenhedlaeth ni sy'n cael ei dargedu? Rydym £33,000 mewn dyled cyn hyd yn oed cymryd benthyciad myfyriwr, oherwydd helpu'r banciau allan o'u problemau, a nawr bydd tua £40,000 ar ben hynny? Hyd yn oed cyn i ni feddwl am brynu tŷ neu gar?

Pam fod y glymblaid yn casáu pobl ifanc? Maen nhw wedi gwneud toriadau i'r budd-dal plant sydd yn mynd yn syth i’n mamau i helpu ni, maen nhw wedi torri adeiladau newydd fel ein bod yn cael ein haddysgu mewn cysur i ffwrdd o’r ‘dosbarthiadau cludadwy’ a nawr gallwn weithio mor galed ag yr ydym eisiau i gel graddau gwych ond dod allan o’r holl beth gyda mwy o ddyled yn ei filoedd nag ffigyrau i’n hoed pan rydym yn graddio?

Gwleidyddiaeth Y Stryd

Yn yr wythdegau roedd aflonyddwch mawr oherwydd y toriadau mewn gwasanaethau gan y llywodraeth Geidwadol oedd yn cael ei harwain gan Margaret Thatcher ar y pryd. Aeth dynion bin ar streic am wythnosau ar y tro, yn ogystal â’r glowyr.

Yn Ffrainc ychydig flynyddoedd yn ôl pan geisiwyd gweithredu cyllido ar raddfa fel hyn, aeth y darlithwyr a’r myfyrwyr ar streic. Rydym angen gweld hyn yn digwydd ym Mhrydain; os byddem yn dod a’r system gyfan i safiad stond bydd y llywodraeth yn gweld pa mor gryf ydym ni mewn gwirionedd. Fe roesom ein pleidlais iddynt ar ddiwedd y dydd.

Os wyt ti’n pleidleisio am rywun sydd yn addo peidio gwneud rhywbeth, ac yna’n ei wneud, yna beth ydy ein hawliau ar hyn? Mae’n rhaid bod hyn yn dwyll; cael rhywbeth trwy ddweud celwydd? Pa mor wirion ohonom i gael ffydd yn y Democratiaid Rhyddfrydol!

Y tro diwethaf i’r Democratiaid Rhyddfrydol fod mewn grym oedd o 1910 – 1916. Gyda’r toriadau niweidiol hyn (datgelwyd yn gyfrinachol fod y llywodraeth yn cynllunio cymryd 80% o’r cyllid Addysg Bellach/Prifysgol) sydd yn mynd yn hollol yn erbyn eu maniffesto, mae’n ymddangos fel na fyddent yn ôl mewn grym tra bydd hyn yn cael ei gofio. Ond eto, mae fy rhieni yn cofio’r wythdegau o dan Thatcher yng Nghymru ac mae’r Ceidwadwyr yn awr mewn grym.

Ac am y Blaid Geidwadol? Gwell ymdrin â’r diafol ti’n ei adnabod na’r diafol ti ddim.

Gwybodaeth >> Addysg >> Addysg Uwch

Gwybodaeth >> Y Byd, Ewrop, DU a Chymru >> Gwleidyddiaeth >> Gwleidyddiaeth y DU

Gwybodaeth
>> Arian >> Arian Tra’n Dysgu >> Addysg Uwch – LlCC

Erthyglau Cysylltiedig:

Os Doeddwn I Ddim Yn Poeni Cynt…

Gwleidyddiaeth & Cyfryngau: 6 Music, UKIP & ‘Yoof’

Defnyddiwr Sprout Eisiau Ymateb Gan Nick Clegg


Pobl Ifanc Yn Teimlo Effaith Toriadau’r Llywodraeth

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.