Mwd, Arian A Ras Hwyaid
Bu swyddogion uwch Ysgol Gymunedol Llangatwg yng Nghastell Nedd Port Talbot yn cael yn oer, gwlyb a mwdlyd er lles elusen!
Cawsom y sialens i godi o leiaf £50 i elusen o’n dewis. Dewisom Barnardos Cymru.
Llwyddom i ragori a chodi £125 mewn un diwrnod! Penderfynom gael ‘ras hwyaid’ ond nid oedd hwyaid, dim ond peli pwll-pel.
Cafodd y brif ferch a’r dirprwy'r swydd ddiflas o rifo’r peli, un i ddau gant.
Ar ôl hynny, aeth y ddau ohonom o gwmpas yn gofyn i ddisgyblion brynu pêl am 50c, ond roedd yr athrawon yn gorfod talu £1, ha ha! Cawsom lawer o roddion, o werth £5 i £40 o dalebau Argos gan ein siop dda da lleol.
Yna roedd hi’n amser i’r gwaith caled digwydd ychydig wedyn. Mae nant yn rhedeg drwy ganol tir ein hysgol. Roedd rhaid clirio’r mwd ac argae’r nant fel nad oedd peli yn cael eu dal.
Treuliom ddwy awr yn torri llwyni, rhawio mwd, argae’r nant a hefyd yn casglu newid mân oedd wedi disgyn i’r nant ar gyfer ein jar arian. Roedd pawb yn socian, yn rhewllyd ac yn fudr iawn.
Roedd llawer iawn o gellweirio gan ein hathrawon. Roedd ein hathro Addysg Gorfforol yn hapus iawn i roi rhodd o arian ein hathro bioleg. Wrth iddynt basio roeddent yn gwneud sylwadau haerllug fel “Ni feddyliais i byth y byddwn i’n gweld chi’n sgwrio’r lloriau”. Roedd hefyd un neu ddau o wedi llithro bu’n sicrhau mwy o chwerthin.
Am un o’r gloch, rhyddhawyd 200 o beli gan y prif swyddogion ac roedd pawb yn gweiddi eu rhifau. Roedd y disgyblion hŷn i gyd efo swyddi fel hudo’r peli i lawr y nant bas, yn dal y peli mewn rhwydi, ac yn pigo’r enillwyr.
Cefais i frws i roi ychydig o fomentwm i’r dŵr, ychydig fel ysgubwr mewn gêm o gyrlio. Roedd rhaid i mi ymestyn am y peli oedd yn sownd ac roeddwn i fynnu i’m mhenelin mewn mwd yn llythrennol.
Roedd rhaid cropian o dan dair pont roedd y gwylwyr yn neidio arnynt. Tynnodd Joe, y prif fachgen , yr argae i fyny a daeth y peli i gyd yn ffrydio allan, o’r diwedd.
Yna roedd rhaid ail gychwyn y ras am fod rhyw ddiferyn wedi anghofio rhoi’r peli mewn trefn. Ail gychwynnodd y ras, a’r tro hyn aeth popeth yn dda heb unrhyw broblem. Yr enillwyr oedd tri disgybl a Will, tad swyddog uwch.
Ar y diwedd roedd gennym bentyrrau mwd, ysgubellau a rhawiau budr, pren, dillad socian a jar yn llawn arian. Mae ras hwyaid yn ffordd berffaith o gael croen da (bath mwd), cyhyrau mawr (o’r rhawio) ac yn ffordd hwyl o godi arian.
Bydd yr uwch swyddogion (Joe a finnau) yn cyflwyno Barnardos Cymru gyda’r arian hwyrach yr wythnos hon, gydag ychydig o bunnoedd ychwanegol ar ôl gorffen ein helfa drysor.
Fe ddylai pawb fod yn codi arian i elusennau ac i bobl lai ffodus â’n hunain. Yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn, Nadolig.
Wyt ti wedi bod yn casglu arian? Gwna sylwad isod.
Nadolig Llawn pawb!
DELWEDD HWYADEN: EJP Photo






