Welcome to CLIConline! Please sign up or login

NadoCLIC Ar Ei Ffordd!

Posted by Sam (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 25/11/2011 at 10:06
0 comments » - Tagged as Culture, Festivals, Topical

  • nadoCLIC

English version

Heddiw ydy'r 25ain o Dachwedd. Ia, union fis cyn y diwrnod mawr. Felly mae'n amser da i ddweud wrthyt am gynlluniau CLIC am y Nadolig.

I gychwyn mae'n NadoCLIC. Os ydy hyn yn canu cloch gyda thi yna byddet yn cofio 12 Blog NadoCLIC llynedd. Darllena nhw yma (roedd rhif 11 yn un penodol o dda).

Yn ail, rydym am wneud yr un peth eto ond ddim yn union. Mae Blogiau mor 2010 wyddost di? Am 2011 mae unrhyw beth yn dderbyniol, mae erthygl yn dal yn iawn, ond os wyt ti'n ffotograffydd, gwneuthur ffilm, darlunydd, DJ, cerddwr, animeiddiwr, beth bynnag, os yw'n greadigol yna gyrra ef i ni. Yr unig beth rydym yn ei ofyn ydy ei fod yn Nadoligaidd ac yn agwedd personol ti am dymor yr ?yl.

Yn drydydd, yn hytrach na chopïo’r 12 diwrnod o Nadolig, rydym yn dyblu i fyny mewn dull calendr Adfent, sydd yn golygu bydd angen 24 o gyflwyniadau. Ond pam ddylet ti ddod oddi ar dy garw a gyrru rhywbeth?

Nawr, dyna'r bedwaredd peth. Mae'r cyflwyniad gorau i'r Calendr Adfent NadoCLIC yn ennill gwobr eithaf gwych. Rydym yn parhau i brofi gwychder y pethau (dim yn disgwyl am y sêl G?yl San Steffan ydym ni, wir) ond byddwn yn gadael i ti wybod beth rydym yn ddewis. Os oes gen ti syniad yna pam ddim ei adael yn y blwch sylwadau isod?

Felly wyt ti eisiau ffenestr fach dy hun yn ein calendr a chyfle i geisio am y wobr? Yr unig beth sydd yn rhaid gwneud ydy e-bostio fi - sam@clcionline.org.uk a byddaf yn cadw lle i ti. Yna cyflwyna dy beth yn yr un modd a fyddet efo unrhyw gyflwyniad arall i CLIC (h.y. drwy'r dudalen yma) ond cofia gynnwys "NadoCLIC" yn y teitl.

Yn naturiol bydd y ffenestr gyntaf yn agor ar ddydd Iau 1af Rhagfyr a bydd rhai newydd yn ymddangos yn ddyddiol hyd at yr un diwethaf ar Noswyl Nadolig *cyfri ar fysedd* 24 ydy hynna ia?

Felly gyrra e-bost i mi (sam@cliconline.org.uk) i gadw lle a dechrau ysgrifennu, arlunio, saethu, naddu, gweu, coginio, chwarae, cymysgu, peintio ac ati… o a phob lwc… a NadoCLIC Llawen!

E-bostia neu gad sylwad isod os oes gen ti unrhyw gwestiwn.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.