Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Pa Mor Oer Wyt Ti?

Posted by Sam (Sub-Editor) from Cardiff - Published on 07/04/2011 at 20:35
0 comments » - Tagged as Climate, Health, People, Volunteering

  • eira
  • NEA

English version

Cyfrinach comedi ydy’r amseru. Cyfrinach foosball ydy cadw dy law ar y golwr drwy’r adeg. A Chyfrinach Ynys Mwncïod ydy gêm antur raffig wedi’i ddatblygu gan Lucasfilm Games.

Ond cyfrinach gweithredu cynllun yn dda ydy paratoi ac i wneud hyn mewn digon o amser. Dyma pam fod NEA Cymru (cangen Cymru o Weithredu Ynni Cenedlaethol, elusen tlodi tanwydd cofrestredig ac annibynnol) eisiau dy adborth ar sut i gadw’n gynnes yn y gaeaf mewn sesiwn yn haul godidog Ebrill. Dyna i chi baratoi.

Mae NEA Cymru yn cynnal dwy sesiwn, un yng Nghaerdydd ac un yng Ngogledd Cymru, ble bydd te, coffi a lluniaeth ysgafn. Maen nhw eisiau dy farn di ar sut wyt ti’n cadw’n gynnes yn ystod y gaeaf a sut mae tywydd cynnes yn effeithio ti a/neu dy deulu gartref. Maent hefyd eisiau mynd drwy ychydig o syniadau am eu prosiect newydd, fydd yn ymuno pobl hŷn a phobl ifanc i helpu cymunedau gadw’n gynnes ac i ddarganfod dy farn di ar sut gallent sicrhau fod hyn yn ymateb i’r problemau efallai ti wedi’i gael.

Mae’r ddau grŵp anffurfiol iawn yma yn digwydd yn swyddfa Age Cymru yng Nghaerdydd ar ddydd Mawrth 19 Ebrill (yp-4yp) a dydd Mercher 27 Ebrill (10yb-1yp) yn swyddfa Plant yng Nghymru yng Nghaernarfon.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn helpu NEA Cymru gyda’r materion hyn yna plîs cysyllta gyda Jane Edgington yn NEA Cymru (jane.edgington@nea.org.uk) cyn gynted â phosib.

Newyddion » Categorïau » Hinsawdd

Gwybodaeth » Arian » Budd-daliadau » Y Gronfa Gymdeithasol

Erthyglau Perthnasol:

    * Let It Snow
    * Snow Blindness
    * Ewinrhew: Ffilm Fer
    * Gwaed Ar Yr Eira: Rhan Un
    * The Dream Before The Snow Fell

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.