Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Pentref Byd-eang Merthyr

Posted by Merthyr Noise Editor from Merthyr Tydfil - Published on 23/04/2012 at 17:40
0 comments » - Tagged as Art, Culture, Dance, Festivals, Music

English version

Bydd digwyddiad blynyddol Pentref Byd-eang Merthyr Tudful yn cael ei gynnal ym Mharc Cyfarthfa dydd Sul, 1 Gorffennaf 2012 rhwng 11yb-6yh.

Mae'r Pentref Byd-eang yn ei hanfod yn ymwneud â chyfranogi: amryw gr?p o bobl sydd yn byw yn y fwrdeistref yn dod at ei gilydd i ddathlu amrywiaeth a gwahaniaeth.

Mae'r ?yl yn defnyddio cerddoriaeth, dawns, celf, llais a pherfformiad mewn cyd-destun dathlu a chynhwysiad.

Mae'r amrywiaeth o weithgaredd yn golygu fod yna rhywbeth i bawb; gall pobl ddatblygu eu hochr creadigol ac ehangu eu gorwelion diwylliannol.

Cafodd yr ?yl Pentref Byd-eang Merthyr Tudful ei sefydlu yn 2005 i ddathlu'r amrywiaeth diwylliannol ac etifeddiaeth Merthyr Tudful. Cynhaliwyd trafodaethau cychwynnol o fewn y Fforwm Amrywiaeth Aml-asiantaeth (MADF) – partneriaeth o sefydliadau statudol a gwirfoddol sydd yn cyfarfod i ymateb i faterion o amrywiaeth a throsedd casineb.

Roedd aelodau'r MADF eisiau datblygu digwyddiad oedd yn cymryd eu cyfrifioldeb a'u gwaith yn y pwnc hwn tu allan i sefydliad eu hunain ac yn cyflawni rhywbeth ystyrlon.

Mae holl aelodau/ymddiriedolwr pwyllgor y MADF yn rhoi eu hamser 'am ddim' i gynllunio a rhedeg y dydd – mae'r Pentref Byd-eang tu allan i gyfrifioldebau gwaith arferol ni a dim ond yn digwydd oherwydd ymroddiad yr unigolion sydd ran ohono. Yn ddiweddar mae'r ?yl Pentref Byd-eang Merthyr Tudful wedi llwyddo i gael statws elusennol.

Yn y pythefnos cyn yr ?yl byddwn yn cynnal gweithdai mewn amryw leoliad. (Gweithdai i'w cyhoeddi yn fuan).

www.merthyr.ac.uk/globalvillage/
Tudalennau Byd, Ewrop, DU a Chymru

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you. Everyone who completes the survey will get the chance to win £50.