Welcome to CLIConline! Please sign up or login

Penwythnos Preswyl Cynllunio CLIC

Posted by CLICtania from National - Published on 06/05/2010 at 10:06
0 comments » - Tagged as Comedy, Creative Writing, Culture, Education, Festivals, People, School Holiday Activities, Technology, Topical, Work & Training, Volunteering, Yn Gymraeg

In English

Sut hoffech chi ymuno gyda ni am benwythnos yng Nghaerdydd i helpu cynllunio ein penwythnos preswyl haf a threfniadau hyrwyddo CLIC?

Rydym yn gwadd Grŵp Golygyddol Cenedlaethol CLIC ac unrhyw aelodau newydd hoffai ddod i Ganolfan yr URDD yn Bae Caerdydd ar ddydd Gwener, 28ain Mai tan ddydd Sul 30ain Mai 2010.

Rydym yn darparu cludiant, llety, bwyd a gweithgareddau er mwyn edrych ar eich ôl a gwneud yn sicr eich bod yn cael amser da. Yr unig beth ofynnir ohonoch ydy eich amser, cysegriad ac egni wrth helpu i ddatblygu CLIC yn y ffordd rydych chi eisiau.

Bydd y penwythnos yn eithaf trylwyr, gyda gweithdai i helpu penderfynu ble i gynnal y penwythnos preswyl haf a sut i fynd o gwmpas cynllunio a threfnu’r gynhadledd neu gyfres o ddigwyddiadau i hyrwyddo CLIC ym mis Hydref. Edrychir hefyd ar bwy sydd ar eu ffordd i gael hwdi CLIC!

Gyda llefydd yn brin ac aelodau presennol o’r grŵp yn cael blaenoriaeth, bydd y gweddill yn cael eu clustnodi yn deg i sicrhau fod cymysgedd da o bobl ifanc o ledled Cymru. Os hoffech gymryd rhan yna hoffwn i chi ateb ychydig o gwestiynau i gychwyn drwy glicio yma.

Neu medrwch gysylltu gyda kath@promo-cymru.org neu ffonio 07840 153720 i gadw eich lle.

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.