Person Ifanc Yn Targedu Bwlio
English version
Mae person ifanc o Bort Talbot a gafodd ei fwlio pan gychwynnodd yn yr ysgol uwchradd bellach yn cynnig cefnogaeth a chyngor i bobl ifanc eraill, diolch i brosiect arloesol gwrth-fwlio,
Llwyddodd Jamie Stevenson, disgybl blwyddyn 11 yn Ysgol Gyfun Glan Afan, ddarganfod ffrindiau a sgiliau allweddol gwrando a datrys problemau fel rhan o Raglen Mentora Cyfoed Bwliod Allan, sydd yn annog myfyrwyr hyn i gefnogi disgyblion ieuengach sydd yn cael profiad o fwlio.
Mae Jamie bellach yn gwirfoddoli yn helpu plant eraill sydd yn cael eu bwlio neu yn wynebu amser anodd yn yr ysgol.
Mae’r rhaglen hynod o lwyddiannus yn cael ei amlygu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o Wythnos Gwrth-fwlio yr wythnos hon, er mwyn helpu pobl ifanc dros Gymru i adnabod a rhwystro bwlio, ac i gefnogi’r rhai sydd yn cael eu bwlio.
Mae ffigyrau diweddar gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn dangos fod tua 30% o rai 10-12 oed yn cael eu bwlio mewn rhyw ffordd dros gyfnod sampl dau fis. Ac mae 15% o rai 14-15 yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio dros yr un cyfnod.
Er hyn, mae ychydig o dystiolaeth fod lefel o fwlio wedi dirywio yng Nghymru ers 2005/06 gall fod yn rhannol yn ganlyniad i rai o’r rhaglenni sydd yn cael eu rhedeg mewn ysgolion ac yn cael eu hannog gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Mae Jamie, 15, yn un o 30 o fentoriaid cyfoed sydd yn cael eu hyfforddi i wrando ar broblemau, datrys gwrthdaro, cofnodi digwyddiadau ac adnabod achosion sydd angen ymyriad oedolyn. Mae myfyrwyr sydd efo pryderon, problemau neu eisiau adrodd digwyddiadau yn cael eu hannog i fynd at fentor cyfoed. Mae’r holl broblemau yn cael eu cofnodi mewn llyfr ac yn cael ei adolygu yn ddyddiol gan athro.
Mae Jamie bellach yn prif fachgen ac yn defnyddio ei brofiad i helpu eraill. “Pan gychwynnais i yn yr ysgol uwchradd roeddwn yn cael fy mwlio gan rai o’r myfyrwyr hyn,” meddai. “Roeddwn ofn ond teimlais yn anghyffyrddus yn siarad ag oedolyn, felly fe es at un o’r mentoriaid cyfoed.
“Roedd gallu siarad gyda rhywun oedd yn gwybod sut beth oedd o a rhywun oedd yn gallu perthnasu รข’r profiad yn help mawr. O’r diwedd fe stopiodd y bwlio ac roeddwn yn hapus yn yr ysgol ac yn fwy hyderus.
“Mae’r cymorth dwi wedi’i gael gan y mentoriaid cyfoed wedi ysbrydoli fi i fod yn fentor. Bob dydd dwi efo’r cyfle i helpu pobl sydd yn cael trafferthion yn yr ysgol. Mae gwybod fy mod yn cyfrannu i fywyd rhywun arall mewn ffordd bositif yn deimlad da iawn.
“Dwi’n gobeithio fod y myfyrwyr eraill yn gwybod fy mod i yno iddyn nhw, yn union fel roedd mentor yno i mi pan roeddwn yn teimlo’n isel.”
Mae Andrew Owen, Dirprwy Brif Athro yn Ysgol Gyfun Glan Afan, wedi gweld buddiannau’r rhaglen: “Nid yw pob myfyriwr yn gyffyrddus yn mynd at athro pam fydd ganddynt broblem ac mae’r rhaglen mentora yn gadael nhw i siarad gyda chyfoed wedi’i hyfforddi.
“Mae rhai problemau fel bod yn nerfus am gychwyn ysgol mwy, poeni am anghofio darn o waith cartref neu wneud grŵp o ffrindiau newydd yn gallu cael eu datrys gan y mentoriaid, tra bydd problemau mwy yn aml yn cael eu pasio i’r athrawon sydd yn gallu ymyrryd mewn ffordd sydd yn sensitif i bob aelod sydd yn gysylltiedig.
“Mae’r rhaglen wedi bod yn lwyddiant mawr yn ein ysgol a byddwn yn parhau i ‘w ddefnyddio i gefnogi ein myfyrwyr a lledaenu’r neges gwrth-fwlio.”
Bu’r Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, yn canmol prosiect y bobl ifanc o Ben-y-bont ar Ogwr ac yn disgrifio Wythnos Gwrth-fwlio fel cyfle gwerthfawr i athrawon, rhieni a myfyrwyr i drafod materion bwlio a sut i weithredu mesuriadau gwrth-fwlio:
“Mae unrhyw ffurf o fwlio yn annerbyniol ac mae rhaid i ni ddysgu delio gydag ef yn effeithiol i osgoi’r potensial o niwed hirdymor gallai gael ar rai pobl ifanc.
“Mae’n bwysig fod gweithwyr proffesiynol addysg efo’r sgiliau a’r offer cywir i adnabod pan fydd plentyn yn cael ei fwlio fel bod posib delio gyda hyn yn effeithiol, a rhoi mesuriadau ataliol mewn lle.
“Dwi’n gobeithio bydd Wythnos Gwrth-fwlio yn galluogi gweithwyr proffesiynol, rhieni a myfyrwyr i rannu arferion da a dysgu o brofiadau ei gilydd.”
Wythnos Gwrth-fwlio 2010
Y 411 Ar Fwlio gan dirty
Tudalen Gwybodaeth Bwlio CLIC







