Post-Its Yn Troi'n 30
Felly, ar ddiwrnod cyntaf Ionawr buom yn canu pen-blwydd hapus i’r blaned Ddaear, wrth iddi oroesi blwyddyn arall heb unrhyw ddatguddiad niwclear.
Ond, mae dathliad llawer mwy wedi dod i’n sylw, a na, nid dychweliad Britain’s Got Talent yw hwnnw.
Ond yn hytrach pen-blwydd y Nodyn Post-It yn ddeg ar hugain oed. Hwre!
Ac i feddwl mai camgymeriad gan wyddonwyr 3M oedd genedigaeth y Post-it, pan wnaethant ddarganfod adlyn drwy ddamwain oedd yn wahanol i unrhyw un arall a allai ludo a chael ei ailosod ar unrhyw arwyneb bron.
Ers eu rhyddhau yn yr wythdegau, maent wedi parhau ymysg y pump o gyflenwadau swyddfa sy’n gwerthu orau yn yr Unol Daleithiau bob blwyddyn. Neis.
Mae’r pad tair modfedd wrth dair modfedd (sef 7.6 wrth 7.6 centimetr) wedi tyfu gydag amser, ac mae bellach ar gael mewn wyth o wahanol feintiau a dau ddeg pump o wahanol siapiau. Fe’u ceir hefyd mewn dros chwe deg o liwiau, gan gynnwys y melyn caneri gwreiddiol ac fe’u gwerthir mewn 150 o wledydd.
“Mae’n un o’r pethau hynny na all fod yn well nag y mae ar hyn o bryd,” meddai Athro Diwylliant Poblogaidd Prifysgol Syracuse, Robert Thompson. “Does dim byd yn dod yn agos at gymryd ei le, dim bîp ar eich ffôn na blip digidol i’ch atgoffa.”
Ychwanegodd “Rydw i’n rhagweld y bydd pobl yn dal i ddefnyddio nodiadau Post-it ymhen can mlynedd. Mae’n cynrychioli rhai pethau a oedd yn amlwg iawn yn yr 80au: bywyd llawer mwy cymhleth a’r awydd i reoli’r cymhlethdod hwnnw.”
Cafodd y dyfeiswyr, y gwyddonwyr 3M Arthur Fry a Spencer Silver eu cynnwys o fewn Oriel Enwogrwydd Genedlaethol y Dyfeiswyr y mis diwethaf.
Mae’r grŵp wedi lansio cystadleuaeth i fyfyrwyr 11 i 18 oed i greu gwaith celf gwreiddiol allan o gynhyrchion Post-it. Mae 3M hefyd wedi lansio llinell gynnyrch newydd, y Nodyn Post-it Gwyrddach. Cafodd hwn ei greu gydag adlyn yn seiliedig ar blanhigion, a phapur y gellir ei ailgylchu yn llwyr er mwyn bod yn fwy eco-gyfeillgar.
Felly, llongyfarchiadau i’r Nodyn Post-it. Deng mlynedd ar hugain oed y mis hwn, ac nid yw’n edrych ddiwrnod yn hŷn na naw mlynedd ar hugain a hanner.
I ddathlu, fe fydda’ i yn ei ganmol wrth fwyta pecyn enfawr o Haribo. Neis.
YSGWTHR: skalas2






