Rydw I’n Casáu Bwyd
Rydw i’n casáu bron pob bwyd.
Gelwir hyn yn Anhwylder Bwyta Detholus (SED).
Yn ddiweddar deuthum ar draws erthygl ar y we oedd yn ymwneud â mi a’r anhwylder sydd arnaf.
Mae SED (na ddylid ei gymysgu gydag anorecsia neu bwlimia) yn dy atal rhag bwyta bwydydd arbennig oherwydd eu hansawdd neu eu harogl, neu oherwydd atgofion drwg e.e. bwyta rhywbeth a thagu arno ac yna bod ag ofn tagu ar y bwyd arbennig hwnnw, neu’r ansawdd.
Pan fo hyn yn digwydd, gall arwain at osgoi cymdeithasol, pryder a gwrthdaro.
Ar ôl darllen erthyglau gan bobl gyda’r anhwylder, dechreuais feddwl am sut a pham yr ydw i fel yr ydw i heddiw. Hyd nes i mi fynd i’r dosbarth derbyn yn yr ysgol roeddwn yn bwyta’n iach, roeddwn yn blentyn bach oedd wrth ei fodd yn bwyta llysiau.
Ond newidiodd hynny i gyd pan es i’r ysgol. Rwy’n cofio cael cinio ysgol, a bwyta pethau roeddwn yn gyffredinol yn eu hoffi gartref, ond yn eu casáu yn yr ysgol felly es â phecyn cinio gyda mi i’r ysgol.
O’r dechrau, roedd gennyf stumog wan iawn a byddwn yn chwydu wrth weld unrhyw beth oedd yn ffiaidd gennyf. Dechreuodd y cyfan yma: rwy’n cofio eistedd o amgylch bwrdd y rhai oedd yn bwyta pecyn cinio a gwylio’r disgyblion eraill yn bwyta eu bwyd. Roedden nhw bob amser yn bwyta gyda’u cegau ar agor ac roedd gan un ferch fara yn sownd yn nhop ei cheg. Golygai hyn na allwn gael brechdanau wedi eu lapio mewn ‘cling ffilm’. Gallwn eu bwyta os nad oedden nhw wedi eu lapio mewn ‘cling ffilm’, ond roedd eu gweld wedi eu lapio ynddo yn fy atgoffa am y ferch honno.
Pan oeddwn tua thair neu bedair oed, dechreuais gasáu bwydydd yr oeddwn yn eu hoffi’n fawr oherwydd gwelwn nhw o bersbectif gwahanol. Gallaf gofio bwyta sglodion microdon Fries To Go o hyd. Roeddwn fwy neu lai yn byw arnyn nhw. Chefais i fyth fy mhump y dydd. Roeddwn yn lwcus o gael pump o ffrwythau a llysiau mewn rhyw ddau fis, a na, dydw i ddim yn gor-ddweud.
Es hefyd drwy gyfnod yn fy mywyd pan fyddwn yn bwyta’r selsig rwber hynny. Arferwn gael rhyw 16 y dydd, gydag ychydig o sglodion efallai.
Roedd fy nghinio Nadolig yn cynnwys sglodion microdon. Ond rydw i wedi symud ymlaen. Rydw i bellach yn cael pwdin swydd Efrog, cyw iâr a grefi. Arferwn fwyta tatws, ond yn weddol ddiweddar roedd eu hansawdd yn ormod i mi.
Gallaf benderfynu oddi wrth olwg ac arogl bwyd a ydw i yn ei hoffi neu ddim. Er enghraifft, dydw i erioed wedi trio pitsa, ffa pob, spaghetti bolognese na phasta, ond wrth edrych arno gallaf ddychmygu beth yw eu hansawdd a’u blas, ac mae hyn yn golygu na allaf eu bwyta. Mae arna’ i ormod o ofn rhoi cynnig ar fwydydd newydd rhag ofn i mi dagu. Mae ffa pob yn gwneud i fysedd fy nhraed gyrlio, fel y mae caws.
Y bwyd rydw i wedi gwirioni arnyn nhw ar hyn o bryd ydy: Pot Noodle (math Golden Woder a blas cyw iâr a madarch yn unig! Ac eithrio’r cyw a’r madarch: rwy’n hoffi eu hidlo fel bod gennyf y sudd a’r nwdls), dinosoriaid twrci, selsig heb groen arnynt a sglodion.
Rydw i hefyd yn hoffi cyw iâr plaen a chyw iâr KFC. Dyna fo fwy neu lai. Fedra’ i ddim enwi deg o fwydydd go iawn (ac eithrio siocled) rydw i yn eu bwyta.
Dim ond ers dechrau’r flwyddyn rydw i wedi dechrau poeni am fy arferion bwyta. Mae fy rhieni a’m ffrindiau wedi dechrau siarad gyda mi, gan ddweud y dylwn fwyta mwy. Dydw i ddim yn meddwl eu bod yn deall pam nad ydw i’n trio bwydydd newydd neu sut rydw i wedi mynd i beidio â gallu bwyta bwydydd mor gyflym.
Rydw i am fwyta, ond dydw i ddim yn dewis peidio â bwyta oherwydd eu bod yn fwydydd atgas, ond oherwydd bod y cyfan i’w wneud â’m meddwl i.
Dyma fy stori i, beth yw dy stori di?
DOLENNAU
Iechyd yn nhudalennau gwybodaeth CLIC
DELWEDD: Ben de Jesus






